Thursday 6 December 2007

Rhwyfo ..

Digwydd galw i mewn i Swyddfa'r Heddlu yng Nghaerfyrddin yr wythnos dwytha gan lusgo fy nghanw drwy'r drws efo fi.

"Sarjant, dwi'm meddwl fy mod i wedi bod ar goll ers dros fis"
"Be di'ch enw chi?"
"Mr Petha Bach"
(Sarjant yn chwilio yng nghrombil y cyfrifiadur am unrhyw wybodaeth berthnasol)
"Does neb di riportio chi fel 'misper'"
"Typical!" meddwn innau.
"Ond mae na inquiries i symudiadau Mrs PB"
"O??"
"Ma hi di symud i Affrica ac agor siop tedi bers yn Swdan"
"Ma hynny yn gneud sens" meddwn i "Roedd hi'n ffan mawr o Swperted pan ddechreuodd S4C"
(penblwydd hapus hwyr gyda llaw!)

"Well i mi'ch arestio chi"
"Pam?? Dwi di g'neud dim.. hyd y gwn i!"
"Y canw syr, arf Al Qaeda."
"Yyyyyy?"
"Roedd y bois drwg Llundain na yn cynllwynio mewn canws yn ardal Bala"
"O wel! Ga'i ddefnyddio wi-fi yn y gell i gadw'r blog i fynd?"
"Rhaid i mi ofyn i'r bos ... o .. damia . newydd gofio .. does gynno ni 'run. Mr Grange wedi mynd. Chi'n gweld da ninna hefyd "up sh** creek without a paddle'"

Sunday 21 October 2007

Ha Hir

Ar ol ha' bron cyn hired a gwyliau aelod seneddol, dyma fi yn ol ym myd y blog. Lle roeddwn i dudwch? Mae na bron i dri mis ers i mi sgwennu ddwytha. Dwi'n meddwl y byd yn rhaid i mi gymryd llai o wylia' blogio y flwyddyn nesa! Peidiwch a meddwl fy mod i wedi bod yn ista ar rhyw draeth pellennig yn unman. A deu'd y gwir dim ond rhyw deirawr o fy mywyd 'dwi wedi dreulio ar lan mor yr ha'ma Doedd o'm cweit yn "1976" fel roedd y bobl tywydd wedi ei ddarogan nagoedd ?

Monday 23 July 2007

Mynd am dro ..


Mi ddefr'is i'r diwrnod o'r blaen a mi roeddwn i wedi cael llond bol .. wedi blino'n lan efo'r hen wlad 'ma. Y gwleidyddion yn llusgo'u traed wrth benderfynu pwy ddyla' reoli; y rhagymadroddi yn dechra' yn barod ynglyn a gobeithion tim rygbi Cymru yng Nghwpan y Byd a Iolo Williams yn ymddangos yn llawer
rhy aml ar y teli .. heb son am y steddfod ar y gorwel (ond stori arall di honno!).
Beth bynnag, cyn i mi ddiflasu'n llwyr a chodi fy mhac a mynd i fyw mewn tyddyn rh'wle i'r gogledd o Inverness, dyma fi yn mynd ar grwydr. Dwi di bod yn Sir Gar, Sir Faesyfed a Sir Benfro dros y dyddia' diwetha. Er gwaetha diawlio pob arwydd 30mya a'r camerau rioed-wedi-arbed-bywyd, mi wnes i ryfeddu. Mae teithiau fel y ges i yn fy atgoffa i o'r cyfoeth sydd ar stepan ein drws a'r croeso sydd i'w gael yn (bron iawn) bob twll a chornel. Roeddwn i wedi dwad i stop wrth un o'r rowndabowts ar ffordd osgoi Aberhonddu pan 'nath rhyw foi efo sbectol ar gefn motobeic efo nymbar plet KC16 arno fo gnocio ar y ffenast a gwaeddi "Duw a’th waredo ni elli ddianc rhag hon!" "Cytuno'n llwyr efo chi Mr Parry -Williams" medda finna "Siwrne saff i chi 'nol i Ddyffryn Nantlle!"

Sunday 15 July 2007

Glaw, Glaw a mwy o law!

Mae hi'n wlyb eto! Dwi ddim yn poeni rhyw lawer am y tywydd, ond mae'r tywydd yr wythnosa dwytha 'mac yn dechra mynd ar fy nerfa' i. Falla bod na wair gwyrdd bendigedig wedi gorchuddio'r tamad o foelni brown ers i'r plant roi trampolin ar y lawnt yr ha' dwytha - ond mae hi'n rhy wlyb i dorri'r gwair er mwyn i mi gael gweld y lawnt ar ei gorau. Mae'r papurau newydd rwan yn son y bydd hi'n debygol o fwrw glaw am ddeugain diwrnod os y bydd hi'n bwrw heddiw. Mae gwyddonwyr yn darogan bod hynny yn gwbl bosib - digon teg, ond does yna ddim pwynt dwad a Sant Swithin (maddeuwch i mi os oes ganddo fo enw Cymraeg) i mewn i'r peth. Mae'r stori yn un ddiddorol ond dydi hynny ddim yn golygu bod na unrhyw wirionedd ynddi hi. Mae llawer gormod o bobl yn dibynnu ar ofergoelion yn yr hen fyd 'ma ! Mae hi wedi bwrw ar y diwrnod yma yn y gorffennol ond 'naeth hi ddim bwrw bob dydd wedyn tan tua diwedd Awst naddo?. Be' 'taswn i'n proffwydo y bydd yna joci efo cap coch yn ennill y Grand National rhwng rwan a 2025 ? Dydi hynny ddim yn amhosib 'nadi? Tasa fo yn digwydd, cyd-ddigwyddiad fydda hynny yn de? Fydda neb yn ei iawn bwyll wedi rhoi pres yn Ebrill 1979 yn proffwydo y bydda Llafur a Phlaid Cymru yn ffurfio Llywodraeth Glymblaid mewn Cynulliad Cenedlaethol mewn llai na deng mlynedd a'r hugain - ond doedd hi ddim yn scenario gwbl anghredadwy chwaith nag oedd?
Felly mi roi fy nghot law a darogan y cawn ni ddiwrnod cwbl sych yn y deugain diwrnod nesa. Dim ond un cofiwch !!! Ai ddim mor bell a darogan nwy na hynny.

Thursday 12 July 2007

Meddwl yn agored ..

Misoniais i ychydig amser yn ol fy mod i wedi prynnu The God Delusion, ond ches i ddim cyfle i'w ddarllen tan y dyddiau diwetha 'ma. Trwy ddefnyddio y 'chydig resymeg sydd gen i, mae'n rhaid i mi ddod i'r un casgliad a Dawkins, sef ei bod hi'n debygol nad oes na'r fath beth a Duw yn bodoli. Ond mi roeddwn i'n teimlo'n anesmwyth iawn ynglyn a'r ffordd yr oedd o yn mynd o'i chwmpas hi i ddifrio pobl sydd yn credu a'u ffydd yn rhan ganolog o'u bywydau. Rydw i yn ei chael hi'n amhosib fy hun dirnad sut y gall unrhywun ddehongli'r Beibl neu'r Koran yn llythrennol ond fyswn i ddim yn bychanu y rhai sydd yn gwneud hynny. Yn ogystal a'i esboniad Darwinaidd am ein hesblygiad fel bodau dynol roeddwn i yn credu fod ei rybuddion ynglyn a phwysigrwydd annog plant i ddysgu i feddwl drostyn nhw eu hunain yn rymus iawn. Dwi'n ddiolchgar fy mod i wedi cael y rhyddid hwnnw. Dwi yn gwybod am ffrindiau sydd wedi cael eu dwyn i fyny i ddilyn defodau a thraddodiadau Islam yn ddi-gwestiwn. Mi wn i am rai sydd hefyd wedi eu derbyn yn gyflawn aelodau mewn eglwysi a chapeli oherwydd cymhellion teuluol yn bennaf. Mae gen i bob parch at bobl sydd yn credu yn eu ffydd (neu eu anghrediniedd) ar sail rhesymeg ac wedi dod i'w casgliadau trwy rym meddwl agored - ond mae pobl sydd yn methu a gwneud hynny boed nhw yn anffyddwyr neu'n arddel crefydd yn fy mrawychu i. Falle nad oeddwn i yn fodlon efo arddull ymsosodol yr Athro Dawkins - Ond, os nad ydach chi wedi ei ddarllen o eto, mae'r The God Delusion yn gwneud i chi feddwl. Gall hynny ddim ond bod yn fanteisiol - beth bynnag di'n barn ni.

Saturday 7 July 2007

Dwy ochr i bob ceiniog ..


Fel ch'ithau mae'n siwr, dwi ddim yn g'wbod lle byswn i heb yr hen ryngrwyd 'ma. Mae o wedi gwneud bywyd yn llawer haws a hwylus. Mae'n siwr fy mod i yn treulio mwy o amser erbyn hyn yn syllu ar fy sgriniau cyfrifiadurol nac ydwi ar y teledu. Ond fel y gwyddom ni - yn enwedig y rhai ohonoch chi sydd yn byw yng Nghymru - dydi'r cymylau ddim yn bell pan mae'r haul yn gwenu. Mae na broblemau lu ynghlwm wrth y we - sbam, pobl yn ceisio dwyn eich gwybodaeth bersonol chi, a mewn rhai amgylchiadau bwlio a stelcian. Fel y dwedais i yn fy mhost cynta un yma - mae na bobl od a sinistr yn yr hen seiber-fyd yma! Be sydd wedi ysgogi'r llith ym aydi erthygl ddiddorol yn y Times heddiw ynglyn a thwf ffenomenon cymharol newydd Facebook. Stephen Fry (dydi o yn foi clyfar d'udwch?) sy'n ganolbwynt i'r erthygl. Mi wnaeth o gofrestru efo Facebook ac o fewn dim roedd cannoedd o bobl yn ceisio ymuno gyda'i rwydwaith "ffrindiau" fo. A dyna wrth gwrs ydi'r deilema - pwy sy'n ffrind ?? Be ydi'r diffiniad ?? Dwi'n gyfeillgar efo'r boi sydd yn glanhau ffenestri - ond a ydio'n ffrind ??? Fydda ffrind ddim yn codi gymaint am 'neud y gwaith yn y lle cynta !!! (ac o bosib yn g'neud job well!). Dwi'n g'wbod am nifer o bobl sydd yn byw ac yn bod ar dudalennau Facebook yn astudio proffeils pobl sydd yn ffrindiau (??) i ffrindiau (??) ar eu rhwydwaith nhw. I be ?? Mae gen i gyfeiriadau ffon/ebost fy ffrindiau - felly mae'n hawdd cael eu hanes nhw! Ond sgynna'i ddim diddordeb be mae'r boi neu hogan sy'n eistedd gyferbyn a nhw yn y gwaith yn ei neud. Dwi wedi sbio dros ysgwydd ambell un yn sganio'r proffeils 'ma - a mae'r wybodaeth sydd yna yn ystrydebol y tu hwnt a'r diffyg gwreiddioldeb yn boenus ee "Dal yn alcoholic! Dal i fethu nofio ar ol y penwythnos 'na yn canwio yn Glan Llyn" "Yn cael triniaeth yn Denbi' mental" .. Diolch am ddarllen hyn o eiriau ffrindiau (?????)!!!!

Thursday 5 July 2007

Hugh, Syr Alf a'r Ddamcaniaeth Fawr !



Yn gynharach yr wythnos yma bu farw y sylwebydd peldroed Hugh Johns. Roedd o'n lais cyfarwydd ar deledu yng Nghymru, gan mai fo gan amlaf fyddai'n dilyn hynt a helynt clybiau Cymru ar raglenni fel The Big Match yn y 70au a'r 80au cynnar. Ond, mae'n siwr bod y rhan fwyaf o bobl wedi anghofio ei "awr fawr". Fo oedd sylwebydd rhwydwaith ITV ar gyfer Rownd Derfynol Cwpan y Byd yn 1966. Ond, diolch i wyth gair o enau Keneth Wolstenholme, chydig iawn sy'n cofio gorchest Hugh. Mae'n siwr bod They Think It's All Over ... It is now! yn atsain yn ei glustiau fo tan y chwiban olaf. Dyma sut y disgrifiodd o'r diweddglo dramatig "Here's Hurst, he might make it three. He has! He has! So that's it. That is IT!" Ddim cweit cystal rywsut nagdi ?

Mae marwolaeth Hugh Johns wedi fy atgoffa i am stori ddiddorol a ddarllenais i yn ddiweddar yng nghofiant ardderchog Leo McKinstry, Sir Alf. Dwi ddim yn gwybod amdanoch chi, ond dwi wedi cael llond bol o sylwebwyr a phyndits cyn y pencampwriaethau peldroed mawr yn lled awgrymu bod gan Loegr hawl ddwyfol bron i ennill Cwpan y Byd neu Bencampwriaeth Ewrop. Mae lot o'r gwrhydri 'ma wedi ei seilio ar lwyddiant '66. Ond wyddoch chi falla' na ddylai Lloegr fod wedi ennill ? Mae nifer ohonoch chi mae'n siwr yn hen gyfarwydd a dadl yr Almaenwyr na ddyla fod y drydedd gol wedi cyfri oherwydd bod na amheuaeth bod y bel wedi croesi'r linell. Ond mae McKinstry yn cyfeirio at stori arall a allai fod wedi taflu dwr oer dros y dathliadau. Mae o'n dweud bod Syr Alf Ramsey wedi chwarae i dim amatur yn Dagenham nol yn y 20au pan roedd o'n gweithio yn siop y Co-Op. Roedd y gemau rheiny yn cael eu chwarae ar y Sul - arferiad beiddgar iawn yr adeg honno! Doedd yr FA ddim yn cydnabod y chwaraewyr yma, ac os oeddan nhw'n dymuno chwarae i glwb a oedd yn aelodau o'r Gymdeithas, rhaid oedd iddyn nhw gydnabod eu "pechod" a thalu dirwy. Fel arall fyddan nhw ddim yn cael eu cydnabod fel "aelodau" o'r FA. Yn ol McKinstry does yna ddim tystiolaeth i brofi bod Syr Alf wedi syrthio ar ei fai. Felly, yn gellweirus mae'n gofyn a oedd o'n gymwys i fod yn reolwr ei wlad ga nad oedd o yn dechnegol yn aelod o'r Gymdeithas Beldroed ?? Damcaniaeth ddiddorol - Sgwn i os bydd yr Almaenwyr yn gofyn am ail-chwarae yn y Wembley newydd ??

Monday 2 July 2007

Bywyd mewn bag tryloyw ...


Dwi wedi cyfeirio o'r blaen yma at ailgylchu - nid fy mod i ymhlith yr ailgylchwyr mwya brwdfrydig mae'n rhaid cyfadde. Ddoe mi fues i am dro i'r parc, ac roedd na resi ar ol rhesi o fagiau gwyrdd o bob tu'r ffordd yn disgwyl i gael eu casglu heddiw 'ma . Un o'r petha sy'n fy nifyrru ar y daith fel arfer ydi ceisio dychmygu sut bobl sy'n byw tu hwnt i'r drysau caaedig yr ydw i yn eu pasio ar y ffordd. Gan fy mod i'n gwneud y daith yn bur reolaidd, dwi wedi dwad i 'nabod rhai o'r perchnogion - a mae eu gweld nhw yn y cnawd yn amlwg yn ei gwneud hi'n haws i mi ychwanegu at y "proffeil" ohonyn nhw sydd wedi ei storio yn nghefn fy meddwl yn rhywle. Datblygiad arall sydd yn gwneud y gwaith hwnnw yn haws ydi'r bagiau ailgylchu. Pam ? Wel mae nhw'n dryloyw.. Mi ellwch chi weld yn syth pwy sydd wedi cael parti (neu sydd a phroblem yfed) Pwy sy'n darllen y Telegraph neu'r Daily Mail, be mae nhw'n gael i frecwast etc. Be sydd yn fy nharo i bron iawn bob tro ydi pa mor aml mae'r "wybodaeth" yn y bagiau yn fy ngorfodi i addasu fy nadansoddiad o'r bobl dan sylw. Mae hi'n wers bwysig i ni i gyd dwi'n meddwl, i beidio cymryd neb yn ganiataol ac i beidio cael eu'n teimtio i greu "sterioteips". Lwcus nad ydi'r bagiau bin du na hefyd yn dryloyw !

Friday 29 June 2007

Ta Ta Tony, Tony Ta Ta !!


Do, mi aeth o o'r diwedd a'r ddynas beryg na efo fo!, Cherie, nid Hilary Armstrong (er swn i'm yn lecio dwad ar ei thraws hitha yn hwyr yn nos chwaith!). Cyn i chi feddwl eich bod chi yn mynd i gael dadansoddiad arall o'i ddegawd o wrth y llyw, waeth i mi gyfadde ddim, esgus ydi hwn i gael rant arall am un o'r pethau sy'n gwneud i fy ngwaed ferwi tra 'dwi'n gyrru. Ymhlith petha eraill mi fydd Blair yn cael ei gofio am ASBOS - acronym amlyca ei gyfnod yn Downing Street (ac eithrio WMD falla). Mae pob math o bobl wedi cael gorchymyn gwrth-gymdeithasol dros y blynyddoedd dwytha. Mi welis i raglen ddogfen neithiwr am hogyn 13 oed gafodd un am godi twrw ar stad dai yn Salford tra'n smocio ei ffordd at gansyr yr ysgyfaint. Ac yma yng Nghymru mae'n siwr fod rhai ohonoch chi wedi clywed am y nain yn ei 80au o Sir Fynwy gafodd fwy nag un am hambygio ei chymdogion. Ond, os ydi Gordon Brown am ddatblygu'r polisi yma ymhellach dwi'n galw arno fo rwan i sicrhau bod gyrrwyr anghwrtais yn cael ASBO yn awtomatig. Sawl gwaith dwi di gneud lle i rywun basio ac i ffwrdd a nhw heb gydnabod y gymwynas !! Be sy'n anodd mewn codi llaw yn sydyn wrth basio, neu nodio pen ?? Gwen sa'n g'neud tro ! A'r hyn sy'n fy siomi fwyaf - yn amlach na pheidio pobl hyn sy'n fwya euog ! Pa esiampl ydi hynna i'n gyrrwyr ifanc ni ? Gord, mi ddyfynais di arwyddair dy ysgol - Felly, g'na dy orau !

Tuesday 26 June 2007

Tenis ?



W ble ydw i ??? Maddeuwch i mi, dwi braidd yn gysglyd ar ol digwydd taro ar draws y blincin tenis 'na ar y teli ddoe. Pam bod pawb yn gwirioni cymaint efo Wimbledon ? Does neb y gwn i amdanyn nhw yn malio ffeuen am be sy'n digwydd bob blwyddyn yn Roland Garros, Melbourne a Flushing Meadow. Felly, be sydd mor ffantastig am Wimbledon? Does na'm byd o'i le mewn rhyw gem fach o denis i gadw'n heini - ac ar ol fory mi fydd Tony Blair isio r'wbath i wneud yn y pnawnia yn bydd ? Dwi'm yn ei weld o yn pendwmpian o flaen y bocs ynghanol Murder She Wrote rywsut. Does gynnoch chi ddim hyd yn oed cymeriadau yn y gem y dyddia yma i'w twt-twtian neu i chwerthin am eu pennau. Hitiwch y bel yn syth i lawr y canol gan hitio'r lein wen -ydi, mae hi di mynd yn gem fecanyddol o ganrannau. Mi fues i ar y Cwrt Canol unwaith, yn ffodus i fi doedd na neb yn chwarae yno ar y pryd neu yno f'aswn ni rwan yn rowlio chwyrnu fel Duges Caint! 'Di honno ddim 'di gadael ei sedd ers dyddia' Fred Perry - ond mae hitha' yn ddigon doeth i beidio deffro pan mae Syr Cliff yn mynnu arwain y canu ! O leia mi fydd yr "ecseitment" drosodd mae'n siwr erbyn yr adeg yma fory, (os na fydd na law wrth gwrs!) efo pob Timothy a Jeremy a Virginia wedi hen golli !


Sunday 24 June 2007

Mwd!


'Nes i rioed fwynhau gwersylla, er mai mewn carafan wnes i'r rhan fwya' o gampio. Newydd fod yn gwylio 'chydig o wyl Glastonbury ar y teledu a gweld y mwd a'r glaw 'na eto yn gyrru ias i lawr fy nghefn i! 'Swn i byth yn cael fy nhemtio i fynd i Glastonbury, hyd yn oes 'tasa rhywun yn talu y £100+ am docyn i fi. 'Dw i ddim yn lecio bysus chwaith - ond mi fysa'n well gin i daith ar fys i Wembley neu'r NEC yn Birmingham i weld bandiau dwi ishio'u gweld. Nid bo fi wedi g'neud hynny ers blynyddoedd maith chwaith. Roedd 'na raglen noson o'r blaen yn olrhain hanes datblygiad perthynas y bandiau roc efo stadiymau peldroed. Mi roedd honno hefyd yn dod ac atgofion yn ol o daith i Wembley i weld Bruce Springsteen. Yr adeg honno chydig iawn o ffys oedd yna efo'r llwyfan - tebyg iawn i lwyfan mawr Glastonbury de'ud gwir. Ond erbyn heddiw mae'n rhaid i'r ser mawr gael sgriniau fideo anferth a lasers o bob math cyn eu bod nhw'n ystyried dwad ar y llwyfan. Falla ei fod o'n cyfrannu at y perfformiad .. ond i fi os di'r gerddoriaeth yn ddigon da a'r cerddorion yn trio eu gorau glas .. oes angen y gweddill ? Siawns bydda'r tocynnau yn rhatach wedyn hefyd ! Ond un o'r gigs gorau y bues i ynddyn nhw erioed oedd Bob Geldof yn hen theatr lychlyd y Royal Court yn Lerpwl .. nid yn unig yr oedd o'n cael trafferth cofio geiriau ei ganeuon, roedd o'n ei elfen yn cwyno am y lleoliad "It's f.....' freezing in this s....hole!". Roedd o'n iawn, ond o leia doedd na'm mwd ar gyfyl y lle !

Saturday 23 June 2007

Y Gwahoddiad ..

Dwi'n teimlo yn ddiweddar fy mod i yn dechra colli fy ngho'. Mae rhai yn d'eud ers blynyddoedd fy mod i o 'ngho .. ond dadl (simsan!) arall ydi honno!. Mi ges i fy "ngorfodi" gan fy merch i fynd yn ol i'r atig y bore ma gan ei bod hi'n cynnal sel cist car. Cymerwch gyngor gen i - dydach chi ddim yn dadlau efo merched 10 oed y dyddia yma!. Yn wahanol i'r w'snos dwytha, mi roedd gen i lamp eitha pwerus heddiw, fel fy mod i'n medru gweld yn iawn pa drugareddau oedd yn cyd-fyw efo Bili'r Pry Copyn. Wrth fynd trwy wahanol focsys, mi welis i ddarn o bapur - gwahoddiad i benblwydd 18 oed hogan oedd yn yr ysgol efo fi oedd o. Tan y foment honno roeddwn i wedi anghofio pob dim amdani hi .. a sgynna i ddim co o gwbl o'r parti. Dydi'r lleoliad ddim yn canu cloch o gwbl. Dwi'n cymryd felly na fues i yno. Ond mi ellwch chi fentro, y tro nesa y gwela i un o fy ffrindia ysgol, mi fyddan nhw'n siwr o roi proc go 'egar i fy ngho' i! Yn eironig, yn yr un bocs roedd na lyfr ar glefyd Alzheimer. Mi ofynais i fy ngwraig os mai hi oedd pia' fo .. Gesiwch be oedd yr ateb .. ia "Dwi ddim yn cofio!"

Thursday 21 June 2007

Nawdd(oglyd)??

Fel 'dwi wedi dweud o'r blaen, dwi'm yn ymweld a chanol trefi yn aml. Ond yr wythnos yma mi ddigwyddis i fod mewn dwy weddol fawr, a mi ges i fy atgoffa o un o'r petha dwi ddim yn lecio amdanyn nhw - sef pobl yn trio gwneud i chi deimlo'n euog am beidio roi canran o'ch cyflog i helpu rhyw achos da, neu am eich bod chi yn gwrthod prynnu'r Big Issue. Peidiwch a fy nghamddeall i, dwi'n gefnogol iawn i amcanion y bobl yma a'r elusennau y mae nhw yn eu cynrychioli ac yn cydymdeimlo efo pobl sy'n ddigartre. Ond mae'n well gen i ddewis a dethol pa achosion i'w cefnogi. Ond mi ges i sgwrs swreal efo un o'r bois Big Issue diwrnod o'r blaen.

"Big Issue!"
"Na, dim diolch"
"BIG ISSUE" meddai gan gymryd arno na chlywodd o fy ateb i.
"Dim diolch" medda finna. Ond yn digwydd bod roedd gen i £1.30 yn fy llaw.
"Dyma chdi" medda fi "ond dwi ddim isio'r cylchgrawn"
Mi edrychodd o'n hurt arna i a deud " Cyma fo"
"Sori, dwi ddim isio fo" medda fi
"Dwinna ddim isio dy bres di" medda fynta
"Sori, doeddwn i ddim yn bwriadu bod yn nawddoglyd" atebais innau gan feddwl fy mod i wedi torri rhyw reol arwyddocaol.
"Cyma'r cylchgrawn ta"
"Na dwi ddim yn ei lecio fo" medda finna "gwell i ti gadw fo i 'w werthu fo i rywun fydd yn ei werthfawrogi o "
Edrychodd arna i fel taswn i'n ynfytyn llwyr, a taflodd y pres i boced ei fest coch.

'Ddwi ddim yn gwybod be di'r canllawiau sydd yna i werthwyr y Big Issue. Mi roeddwn i'n trio ei helpu er nad ydwi yn hoff o'r cylchgrawn. Felly, o hyn ymlaen mi fyddai'n osgoi pobl mewn fests lliwgar fel y pla - yn enwedig y rhai efo clipfyrddau!

Wednesday 20 June 2007

Elwa o ragfarn ..

Glywsoch chi'r un am y sais deunaw-ston oedd yn meddwl ei fod o'n ddigri ?. Lot o drafod wedi bod dros y deuddydd diwetha ynglyn a hiwmor a digrifwch yn dilyn marwolaeth y cymeriad lliwgar hwnnw Bernard Manning. Mi benderfynodd cwmniau teledu flynyddoedd yn ol bod ei "hiwmor" yn perthyn i oes yr arth a'r blaidd a mae'n siwr y byddai'r rhan fwyaf ohonan ni wedi anghofio amdano fo, onibai ei fod o'n amlach na pheidio ynghanol y ddadl ynglyn a be sy'n "dderbyniol" mewn comedi. Roedd Manning yn cael ei weld gan rai fel symbol o'r diffyg goddefgarwch sydd yn ein cymdeithas ni ac mae nhw'n awgrymu y bydd pethau'n tipyn gwell rwan ei fod o wedi'n gadael ni. Ond a fydd hi ? Wedi'r cwbl dyn busnes oedd Manning, ymateb i'r galw oedd o am y math yma o "gomedi". Mi lenwodd o'r bwlch yn y farchnad (mewn mwy nag un ffordd!). Mi wnaeth o ffortiwn yn adlewyrchu rhagfarnau'r miloedd oedd yn talu i glywed ei "jocs" o. Falla bod Bernard Manning wedi marw ond yn anffodus mi fydd y rhagfarnau a ddefnyddiodd o yn effeithiol i dalu am y Rolls Royce yn fyw ac yn iach am flynyddoedd eto.

ON Mi benderfynais i beidio cyhoeddi ei lun o yma rhag ofn y bydda fo yn dychryn rhai darllenwyr sensitif ! Rhagfarn ? Penderfynwch chi!

Sunday 17 June 2007

Talent ..

Anaml iawn y dyddia' yma y mae dwad o hyd i raglen deledu ble mae hi'n bosib i'r teulu eistedd i lawr efo'u gilydd i'w mwynhau. Ond mae'r wythnos dwytha 'ma wedi bod yn eithriad diolch i Simon Cowell, o bawb. Yn fy marn i mae cyfresi fel yr X Factor yn ymestyn y gaea' yn hirach na ddyla fo fod - ond ges i'n siomi ar yr ochr orau efo'r gyfres hon. Ro ni'n ama' y bydda Britain's Got Talent yn fy ngyrru i i'r stafell yma i bwdu. Ond chwarae teg mae hi wedi bod yn syndod o ddifyr .. Cymysegdd o'r gwych ( Y Cymro Paul Potts, uchod) y gwael (y ddynes 'na oedd yn meddwl ei bod hi gystal a Madonna), a'r gwachul (Piers Morgan!). Rhywbeth at ddant pawb. Syniad da hefyd ei rhedeg hi dros gyfnod o w'snos, cyn i rywun gael llond bol, a chyn i fis Mehefin droi'n Groundhog Day go iawn. Mae hi'n gyfres sydd wedi cael sylw mawr yn y wasg - o'r tabloids i'r trymion - ac mae'n siwr y bydd Michael Grade yn tanio sigar ychwanegol yn swyddfa ITV bore fory wrth dwangio ei fresus coch tra'n dadansoddi'r ffigyrau gwylio!. Ond poeni yr ydw i rwan y byddan nhw'n gorfanteisio ar y llwyddiant 'ma ac yn ei gwneud hi'n gyfres hirach .. lot hirach! Cofio Millionaire? Mi gafodd honno ei rhedeg am bythefnos gyfa i ddechra cyn diflannu a dwad yn ol am gyfnod byr wedyn .. Mi lwyddodd hi i gadw awch y gwylwyr. Ond rwan does bosib cael gwared o Chris Tarrant! Arghhh! Amser i ffonio ffrind dwi'n meddwl!!!

Saturday 16 June 2007

Hen ffrind!

Dydd Sadwrn dwytha mi ddwedais i wrthoch chi fy mod i wedi gweld sawl person yr oeddwn i yn ei 'nabod wrth gerdded i nol papur. Mi es i ar y daith tua'r un adeg y bore 'ma a welis i neb cyfarwydd arwahan i'r bobl sy'n gweithio yn y siop. Ond, ar fy ffordd adref mi welis i unigolyn sydd wedi ymddangos yn y blog yma o'r blaen, sef perchennog y Toyota Prius y cyfeiriais i ato yn gynharach yn yr wythnos. Mi wnaeth o fy nghyfarch i efo gwen wybodus "dwi'n-gwybod-be-'ti-wedi-bod-yn-dd'eud-amdana'-i-ar-y-tipyn-blog-'na!". Ydio'n gwybod ?. Go brin! Ond nath hynny ddim fy stopio rhag cael pwl o euogrwydd, wel ..tan ei fod o wedi newid i'r ger anghywir a diflannu rownd y gongl! Lwcus nad oedd 'na blant o gwmpas heddiw!

Wrth son am y blog, diolch i un o archflogwyr Cymru Sanddef, am alw draw ac am roi linc i Petha' Bach. Cofiwch ymweld a'i flogiau dwyieithog os nad ydych chi yn gyfarwydd a nhw yn barod.

Yn yr Atig ..

Dim on teirgwaith y flwyddyn y bydda i fel arfer yn ol yr ystol o'r sied er mwyn myn di'r atig. CYN Dolig, Noswyl Dolig ac AR ol Dolig. Ond fyswn i ddim wedi cael llonydd gan fy merch drwy'r dydd 'taswn i heb gyflawni'r orchwyl y bore ma. Roedd hi'n chwilio am hen beiriant gwnio. 'Dwi ddim yn lecio mynd i'r atig am sawl rheswm - mae hi'n dywyll i ddechra' felly dydw i rioed wedi gweld yn iawn be sy' 'na arwhan i'r petha dwi'n gwbod fy mod i wedi eu rhoi yna. 'Dwi'n rhoi'r bai ar fy nhad bod yna gymaint o focsus yno. Dros y blynyddoedd, er mwyn creu mwy o le iddo fo'i hun, mae o wedi bod yn dwad a phetha yma. Dydi'r llwyth ddim yn edrych yn lot ar y pryd ond dros gyfnod o amser, mae o'n bentwr sylweddol! Ond wrth edrych y bore ma mi ddois i o hyd i hen beiriant ffilmia fy nhaid yn ei focs gwreiddiol. Mae na tua 5 mlynedd wedi mynd heibio ers i dad ddwad a hwnnw acw, ac mi ro'n i wedi anghofio amdano fo. Rhaid i mi gofio trio chwilio am rywun rwan i roi'r ffilmiau cine ar DVD. Dwi'n cofio eu gweld nhw flynyddoedd yn ol. Mi fydd hi'n ddiddorol gweld hanes y teulu o dros ddeugain mlynedd yn ol. Ond os dwi'n cofio'n iawn doedd na'm sain arnyn nhw. Piti. Ond y cwestiwn yr ydach chi i gyd yn ofyn wrth gwrs ydi - ffeindis di'r peiriant gwnio ?? Wel, naddo siwr iawn!!

Friday 15 June 2007

Lleisiau o'r Gorffennol 2



Gwleidydd amlwg arall y clywais ei lais o am y tro cynta ar gyfres Andy Marr (gweler pyst blaenorol) ydi'r cyn brifweinidog Syr Anthony Eden. Am gyfnod maith mi fuodd o'n weinidog disglair ac yn disgwyl am ei gyfle i fod yn brif weinidog (dio'n atgoffa chi o rywun?) . Ond doedd hi ddim yn hawdd symud 'rhen Winston o 10 Downing Street (ddim yn gorfforol chwaith sw 'ni ddim yn meddwl!). Ond ar ol cael ei gyfle mi wnaeth o smonach o betha' yn Suez ac i ffwrdd a fo a Lady E i rywle poeth i guddio. Ond mi 'na'th o ddigon o argraff ar gynghorwyr Wrecsam, gan eu bod nhw wedi enwi un o strydoedd y dre ar ei ol o. Mae hi'n daith bell o gaeau gwyrdd Eton i stad Parc Caia ! Sgwn i os y bydd yna gyngor hirben (!) yng Nghymru yn enw stryd ar ol y boi 'na o ysgol Fettes, Anthony Charles Lynton .. maddeuwch i mi dwi di anghofio ei gyfenw fo yn barod !

*Gyda llaw, diolch i ti Americanwr am dy sylwadau ynglyn a fy mhost dwytha'. Dwi'n synnu bod hi wedi cymryd cyhyd i rywun anghytuno efo fi !

Thursday 14 June 2007

Sylw wrth basio ...


Tua ugain mlynedd yn ol roedd hi'n ffasiynol i gael sticeri doniol ar ffenestri cefn ceir ee My Other car's a Porsche ar ffenest Citoen 2CV. Ond y dyddia yma, mae'r hiwmor i weld wedi diflannu o'n priffyrdd ni. Mae na gamerau melyn a faniau gwynion yn gwylio pob symudiad, heb son am yr hen wardeniaid traffig 'na yn llechu rownd pob cornel! Ond be dwi ddim yn ddeall ydi, be ydi pwynt arwyddion fel hwn? Mae na fabi yn y car .. wel ? Sori, does gen i ddim diddordeb pwy sydd yn teithio yn eich car. A beth bynnag, da'ch chi'n camarwain eich cyd-yrrwyr. Bob tro dwi wedi digwydd sbio draw wrth basio un o'r ceir yma .. anaml iawn welis i fabi o fath yn y byd ! Felly be di'r pwynt ? Ac os mai'r nod ydi deud wrth y gyrrwr tu ol i chi am beidio dwad yn rhy agos, pan na fedwrch chi gario sticer sy'n deud hynny 'ta ? Mae pobl sy'n defnyddio babis fel esgus yn ynfyd!

Tuesday 12 June 2007

Lleisiau o'r Gorffennol



'Dwi wedi cyfeirio yma o'r blaen at gyfres Andy Marr, The History of Modern Britain. Ddoe mi wyliais i'r bennod ar y 60au. Mae o'n gyfnod dwi'n eitha cyfarwydd ag o, ond be oedd yn ddiddorol oedd clywed lleisiau rhai o wleidyddion amlyca'r cyfnod. Yn amlwg roeddwn i wedi clywed llais Harold Wilson sqwl tro o'r blaen. Ond doeddwn i rioed wedi clywed y gwleidydd lliwgar hwnnw George Brown (na dio'm yn perthyn i Gordon) yn llefaru. Roeddwn i wedi synnu, wrth weld y clip, ar ddwy lefel (a) ei fod o'n sobor (b) ei fod yn huawdl. Mae llenyddiaeth wleidyddol y cyfnod yn llawn o straeon am y rhen George wedi' 'i dal hi.. Mae na stori anfarwol amdano yn gofyn i un o archesgobion De America ddawnsio efo fo a fynta yn meddwl mae dynas mewn ffrog oedd o ! Dyma oedd ymateb yr arweinydd eglwysig "I will not dance with you for three reasons. The first is that you are drunk. The second is that the band is not playing a waltz, but the Peruvian national anthem. The final reason is that I am the Cardinal Archbishop of Montevideo". Mae'r stori yn rhy dda rhywsut, sy'n gwneud i mi amau, fel nifer o bobl eraill, a ydi hi'n wir!

Pen .. wal .. brics!!

Mae ngho' i yn gwaethygu! Mi soniais i'r diwrnod o'r blaen am fy sgyrsiau hir a diffrwyth efo'r cwmni sy'n gyfrifiol am fy ngwasanaeth band llydan. Ond mi roeddwn i wedi anghofio am ran o'r sgwrs gynta ges i .. wel .. tan i gloch y drws ganu'r pnawn ma. Os cofiwch chi, problem efo'r modem wrth wraidd fy ymholiadau. Ar ol taeru'r du yn wyn nad y nhw oedd ar fai, mi ddudon nhw y bydda nhw'n anfon peirianydd allan i gael golwg arno fo.

"Pryd?" gofynis i
"Dydd Mawrth rhwng 2 a 6" meddan nhw
"Dydd Mawrth yn iawn, ond er gwybodaeth fydd neb yn ty tan 3. Felly mi ddudwn ni rhwng 3 a 6 ia?"
"Naci rhwng 2 a 6" meddan nhw
"Na 'da chi'm yn dallt" medda fi "Does dim pwynt i ddo fo ddwad rhwng 2 a 3"
"Da chi isio i beirianydd ddwad i wel y modem yn does?"
"Oes - ond rhwng 3 a 6 !!!" (Ron i'n dechra colli mynedd yn fan'ma)
"Be am ddydd Mercher?"
"Dydd Mawrth yn iawn" medda fi "mi fyddai yma ar ol 3" (ychwanegis i BST, rhag ofn mai dim ond i amser lleol Mumbai yr oeddan nhw y gweithio)
"Rhwng 2 a 6 amdani felly"
"NACI - RHWNG TRI a CHWECH" gwaeddais innau
"ond fedran ni .... (PETHA BACH yn gwasgu'r botwm coch ar y ffon a'i daflu ar draws yr ystafell)

Beth bynnag mi 'ro'n i wedi anghofio am y sgwrs hon tan heddiw. Mi nes i ddatrys y broblem fy hun dros y penwythnos - a darganfod mai'r modem OEDD wrth wraidd y drwg!!. Ynghanol fy nathliadau, mi nes i anghofio ffonio'r cwmni i ganslo'r peirianydd. Wps! Ond roedd o'n ddigon graslon chwarae teg iddo fo. Ond wyddoch chi pa bryd y daeth o acw .. ia da chi'n iawn .. rhwng 2 a 3!!!

Monday 11 June 2007

Ennill a Cholli !



Mae'n rhaid i mi dd'eud, rydw i yn gweld y gwaith 'ma o achub y blaned yn waith caled. Roeddwn i'n anobeithiol mewn gwyddoniaeth yn yr ysgol felly rydwi yn ei chael hi'n anodd deall rhai o'r dadleuon 'ma sy'n cael eu cyflwyno o bob cyfeiriad. Ond mi fyddai'n rinsio'r hen duniau a'r poteli na au rhoi nhw yn y bag gwyrdd ac yn gwagio'r compost o'r ardd i mewn i'r bin pwrpasol, mae'r car yn rhedeg ar ddiesel a phur anaml y bydda i yn hedfan i unman - ddim hyd yn oed rhwng Sir Fon a Chaerdydd! Ond mae na bobl sy'n meddwl eu bod nhw'n helpu, ond dydyn nhw ddim! Er enghraifft, mae na ddyn rownd fan hyn sy'n gyrru Toyota Prius - y car 'hybrid', ond dydio ddim yn cyfrannu i wella'r amgylchedd - i ddechra' mae o'n beryg, felly mae bywydau plant ysgol yn y fantol ar y groesfan sebra rownd y gongl, a dydi o ddim yn newid gers yn ddigon cyflym - felly mae pob car arall tu ol iddo fo wedyn yn gollwng mwy o lygredd (Jeremy Clarkson ddysgodd hynna i fi, nid fy athrawes gwyddoniaeth!). Dyma i chi enghraifft wych arall o'r hyn dwi'n son amdano yng ngholofn llythyrau'r Times heddiw (Tip Petha' Bach: y llythyr yn y gornel dde yn gwaelod ydi'r un mwya difyr 90% o'r amser!). Meddyliwch petha drwodd bobl cyn gweithredu -mae'n gneud sens!

Sunday 10 June 2007

Y Cwin ..

Oherwydd fy mhroblemau cyfrifiadurol yr wythnos diwetha ches i'm cyfle i basio sylw ar y 'shenhanigans' lawr tua'r Caerdydd 'na ddydd Mawrth. Mi adawai'r dadansoddi i'r blogs gwleidyddol, ond wrth iddi hi ysgwyd llaw efo Dafydd El, mi sylw'is i nad oedd hi'n edrych ddim byd tebyg i Helen Mirren .. neu dydi Helen Mirren ddim yn edrych ddim byd tebyg i Anti Liz! Mi welis i'r ffilm The Queen am y tro cynta'r diwrnod o'r blaen - ac mi o'n i'n crafu fy mhen - sut y llwyddodd hi i ennill yr holl anrhydeddau? Roedd y Fonesig i mi fel Jane Tennyson o Prime Suspect yn gwisgo sgarff am ei phen ar ol i'r gwaharddiad ar smygu mewn mannau cyhoeddus yn Lloegr ddod i rym. Ond roeddwn i'n meddwl bod portread y Cymro Michael Sheen o Uriah Heep .. wps sori .. Tony Blair yn rhagorol - yn fwy credadwy na dehongliad Robert Lindsay yn The Trial of Tony Blair ac A Very Social Secretary. Roedd Sheen hefyd yn cael ail gynnig arni ar ol chwarae'r Prif Weinidog yn The Deal
y ddrama sy'n olrhain hanes y fargen honedig rhwng Blair a Gordon Brown ynglyn ac arweinyddiaeth y blaid Lafur.

Diet Freddie Starr ..


Heb os un o benawda mwya cofiadwy y chwarter canrif ddiwetha yn y papurau newydd ydi hwn yn y Sun. Er bod Freddie ei hun wedi gwadu'r stori ar sawl achlysur mae'n ymddangos nad oes na fwg heb dan - neu yn y stori honedig ddiweddara 'ma amdano - falla y dylan ni newid y dywediad i does na ddim llwch heb dan!. Mae'n debyg ei fod o wedi yfed llwch y diweddar ddigrifwr Dick Emery mewn camgymeriad wrth wneud paned o goffi. Ond, dudwch i mi, pam bod ei gariad o (Emery) wedi rhoi'r llwch mewn jar Nescafe ? Mae hynny yn beth od iawn i'w wneud yn fy marn i. Mewn coffin 'da chi'n rhoi pobl sy' di marw, nid mewn caffiene! Be 'dach chi yn adael mewn potia coffi gwag ? Gadewch neges!

Saturday 9 June 2007

Dechra' da i'r diwrnod !

Mi gerdd'is i a fy mab i'r siop y bora 'ma i nol y papurau. Mi dd'udon ni helo neu godi llaw ar 7 o bobl yr oeddan ni'n nabod yn ystod y daith 5 munud. Wel 11 i fod yn dechnegol gywir gan fod teulu o 4 basiodd ni yn y car wedi troi rownd a dwad yn ol heibio'r eildro oherwydd eu bod nhw yn amlwg wedi anghofio bwced a rhaw neu rwbath. Mae gweithredoedd bach fel 'na yn gneud i fy nghalon i g'nesu!. Dwi'm yn meddwl fy mod i rioed wedi cael sgwrs hir efo'r un ohonyn nhw arwahan i'r dyn drws nesa ..ond mae'n gneud i chi deimlo eich bod chi'n rhan o dapestri mwr bywyd rhywsut ! Ges i banad dda o goffi cyn cychwyn a doedd dim raid codi yn gynnar a'r haul yn tywynnu . Bendigedig! Ar ddydd Sadwrn mi fydda'i yn prynnu un tabloid (i'r wraig -onest!) a'r Times - yn benna' am yr atodiadau llyfrau a diwylliant a hefyd am golofn wythnosol Mathew Parris. Roedd ei sylwadau ar y cytundeb arfau rhwng Bae Systems a Sawdi Arabia yn ddiddorol, ond y golofn dynnodd fy sylw heddiw oedd un Janice Turner. Ar ol y pwt am Katie, yr hogan beryg' na o'r The Apprentice, mae hi'n son mai hi oedd yr unig riant a oedd yn fodlon i'w mab 11 oed deithio ar ei ben ei hun ar y tren o Weymouth i Lundain. Roedd y rhieni eraill i gyd wedi gyrru 4 awr yno a phedair awr yn ol i nol eu plant - rhai ohonyn nhw yn 16. O gofio achos Madeleine McCann - pa oed y mae hi'n ddiogel i blant gael rhyddid i wneud pethau ar eu pennau eu hunain ? Cwestiwn dyrys ac un y bydd yn rhaid i fi ei ystyried yn ddwys.

Wednesday 6 June 2007

Ma isio gras!!

Ro'n i'n ama' na fydda hi yn cymryd llawer i mi orfod defnyddio'r gofod yma i ddadlwytho pwysau'r byd oddiar f'ysgwydda! Ma' fy nghyfrifiadur i wedi bod ar streic yr wythnos yma er fod fy nghyfrifiadur llaw i yn gweithio yn iawn trwy'r rhwydwaith wi-fi. Ar un pwynt roedd cyflymder cysylltiad y we wedi syrthio i 2kb yr eiliad. Mi driais i bopeth i ailgysylltu gan gynnwys dros ddwyawr ar y ffon efo 3 person gwahanol mewn canolfan alw yn Bangalore/Mumbai/Delhi.

"Mae'n rhaid i ni sefydlu pa mor gyflym ydi'ch cysylltiad chi " medda nhw
"2-10kb yr eiliad ar gyfartaledd" medda finna
"Plis llwythwch y dudalen hon" medda nhwytha
"Fedra i ddim - mi gymrith o drw'r dydd" medda finna
"Mae'n rhaid i chi" medda nhw
"FEDRA I DDIM!!!!" gwaeddais innau.

I stori hir yn fyr, dwi'n meddwl fy mod i wedi dadwneud y gwaith da 'na'th cenhadon o Gymru yn yr India dros y canrifoedd. Ond dwi'n pwysleisio na wnes i ddefnyddio ieithwedd Jade-Goodyaidd efo nhw. Beth bynnag dwi'n nol yn y byd cyfrifiadurol eto rwan ar ol clicio a dad-glicio llwyth o orchmynion a phrotocols a ballu. Tra dwi wedi bod yma dwi'n gweld fod fy chydig eiriau wedi lledaenu megis ffliw adar, trwy gyfrwng Blogiadur. Gobeithio na chewch chi, na'ch cyfrifiadur feirws, drwy ddarllen hwn. Diolch hefyd i Rhys Wynne am gyfeirio at Petha' Bach ar ei flog Gwenu Dan Fysiau . Felly dyma ad-dalu'r gymwynas Rhys! Ar ol dros dridau o chwilio Google am help i ateb fy mhroblem, mi ga'i fynd allan i'r ardd i fwynhau 'chydig o'r haul rwan .. geith fy ffrind Ms Stella Artois ddwad hefyd os neith hi fihafio ! Iechyd Da!

Monday 4 June 2007

"I've Arrived!"

Dyna deitl un o ganeuon cynhara' Geraint Jarman - a mae'n ymddangos eu bod nhw yn eiriau addas i'r Blog yma gan fod yr enwog Blamerbell wedi tynnu sylw ei ddarllenwyr at ddyfodiad Petha Bach. Dwi wedi mwynhau y chydig ddyddiau cyntaf 'ma yn y blogosffer. Mae na giamstars cyfrifiadurol allan yna yn arbrofi gyda bob math o dechnegau i ddenu'r darllenydd nol dro ar ol tro. Ar hyn o bryd dwi'n falch fy mod wedi gwthio'r cwch i'r dwr ac wedi cael y dolenni a'r lluniau i weithio. Hwn ydi'r llith cynta i mi sgwennu ar fy nghyfrifiadur llaw - gobeithio y bydd yr arbrawf yma yn llwyddo. Diwrnod mawr fory - Anti Liz yn dwad i ginio.

Sunday 3 June 2007

16.48 ....


Dyna oedd yr amser ar gloc digidol Stadiwm y Mileniwm pan gerddodd Ryan Giggs oddiar y maes yn gwisgo crys coch ei wlad am y tro diwetha. Piti nad oedd y stadiwm yn orlawn i ffarwelio efo fo. Ond mi gafodd y rhan fwyaf oedd yno dwi'n siwr eu plesio gan y perfformiad. Me Wayne Hennessy yn edrych yn golgeidwad cadarn iawn a da gweld Danny Gabiddon a James Collins, y bartneriaeth o West Ham, yn chwarae gyda hyder unwaith eto yn y cefn. Bydd colli Giggs yn gadael gwagle mawr - ond o leia mi fydd Gareth Bale yn ei ol cyn bo hir. Dwi'n teimlo fodd bynnag bod angen ymosodwr tal ar Gymru i helpu Bellamy. Roedd Ricketts yn brin o ddewisiadau werth groesi o'r dde yn yr hanner cynta gan nad ydi Bellamy a Giggs yn arbennig o gryf yn yr awyr.

Y Trampolin ..


Tan nos Fercher dwi'm yn cofio y tro dwytha i mi chwerthin yn uchel wrth wylio'r teledu. Mae'r gyfres yma o'r The Apprentice wedi bod yn siomedig ar y cyfan. Mae angen cymeriadau i wneud rhaglen realiti fel hon yn llwyddiant, er enghraifft, Sayed anobeithiol a'r hogan gwallt coch boncyrs 'na'r llynedd. Ond amynedd piau hi, ac mi ges i fy ngwobrwyo noson o'r blaen. Roedd yn rhaid i'r ymgeiswyr werthu nwyddau ar sianel deledu. Chafodd y run o'r timau hwyl arni ond doedd na run ohonyn nhw cynddrwg a Simon! Cliciwch yma i'w weld yn trio gwerthu'r trampolin !! Anfarwol. Gwyliwch ymateb yr hen Syr Alan.

Ffarwel ..


Mi fues i'r bore ma yn ffarwelio gyda ffrindiau sy'n symud i fyw i Awstralia'r wythnos nesa. 'Dwi'n edmygu eu dewrder nhw ond yn amau doethineb gwneud penderfyniad mor fawr heb eu bod nhw wedi bod yno ! Mae o'n gam mawr yn enwedig i'r plant sy'n hapus ymhlith eu ffrindiau ysgol yma. Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith ymchwil wedi ei wneud ar y we. Dyna'n union fydda i yn ei neud pan fydda i yn mynd ar fy ngwyliau - ond mi rydw i o hyd yn teimlo'n sal rhag ofn na fydd y golygfeydd o'r mor welis i ar y wefan yno go iawn ! Fedra i ddim dechrau dychmygu sut y byddan nhw yn teimlo unwaith bydd yr awyren 'na yn yr awyr. Cawn wybod yn fuan mae'n siwr sut mae pethau yn mynd diolch i MSN ac e-bost.

Chydig o hanes ...

Ches i ddim cyfle yn ystod y deuddydd dwytha i bostio - felly dyma ryw son am un neu ddau o betha! Mi soniais i fy mod i wedi prynnu The God Delusion yr wythnos dwytha. Mi brynnis i hefyd Having It So Good: Britain in the 50s. Hon yw'r ail gyfrol han Peter Hennessy yn olrhain hanes gwleidyddol a chymdeithasol Prydain ar ol yr Ail Ryfel Byd. Mae'r cyfrolau yma yn cydfynd yn addas iawn gyda chyfres deledu Andrew Marr The Modern History of Britain. mae Marr ei hun wedi ysgrifennu cyfrol i gydfynd efo'r gyfres, ond yn ol yr adolygiadau rydw i wedi eu darllen mae 'na awgrym ei bod hi'n arwynebol a'i fod wedi cynnwys rhannau o'r sgript deledu gafodd eu taflu o'r neilltu yn ystod y broses olygu. Er fy mod i wedi darllen cryn dipyn am wleidyddiaeth Prydain ar ol y rhyfel, mae Hennessy 'dwi'n teimlo yn cynnig perspectif newydd ac yn llawn ffeithiau a gwybodaeth nad oeddwn i wedi ei gael mewn cyfrolau eraill. Mae angen mwy o gyfrolau cynhwysfawr tebyg yn olrhain hanes Cymru yn fy marn i.

Thursday 31 May 2007

Petha Mawr ..



O diar ! Mi nes i addo i fi fy hun pan ddechreuais i gyboli efo'r blog 'ma mai "petha bach" bywyd y byswn ni yn eu trafod. Ond ar ol tridiau yn unig mae fy nisgyblaeth i'n deilchion. Digwydd bod yn dre heddiw a sylwi bod llyfr Richard Dawkins allan mewn clawr meddal. (Fydda i byth yn prynnu llyfrau clawr caled - dydyn nhw ddim yn hawdd i'w cario i bob man nac ydyn?). Dwi'm di ei ddarllen o eto wrth reswm ond yn edrych ymlaen i wneud ar ol darllen yr adwaith yn y wasg i'r fersiwn clawr caled. Pan rydw i yn darllen erthyglau ac ysgrifau ffeithiol dwi'n tueddu i gael fy nhynnu at y rhai y byswn i yn reddfol o bosib yn anghytuno efo nhw. Mae'n haws deall yr wrth-ddadl wedyn ac yn help gobeithio i wella fy nealltwriaeth i o'r ochr arall i'r geiniog. Ond yn y cyd-destun yma, cyn agor y clawr - dwi'n gwybod bod fy rhesymeg i (yr ychydig sy'gin i !) yn dwad i'r casgliad nad oes yna "Fod Mawr". Dwi'n rhagweld bydd y trywydd rhesymegol hwnnw wedi cael ei gryfhau ar ol darllen llith yr Athro Dawkins -- ond rhaid wrth feddwl agored. Mae gen i domen o lyfrau i'w darllen ar y funud .. falle na fyddai felly yn dwad yn ol a un o gwestiynau mawr bywyd tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn !! Reit .. taw piau hi am rwan -- nol at y "petha bach" fory dwi'n meddwl.!

Tipyn o syrpreis ..



Mae Rhodri Morgan wedi dewis ei gabinet newydd ... wel ...'dio ddim mor newydd a hynny a deud y gwir. Yr un chwaraewyr mewn safloedd gwahanol. Roeddwn i wedi tybio y byddai Huw Lewis neu Leighton Andrews wedi cael dyrchafiad i geisio eu ffrwyno. Carwyn Jones fydd yn gofalu am Addysg a Diwylliant. Dwi'n credu y bydd cael Cymro Cymraeg rhugl yn y swyddi yn fanteisiol, er wrth gwrs bod angen canmol ei ragflaenwyr Jane Davidson ac Alun Pugh am fynd ati i ddysgu'r iaith. Mae hi'n syndod bod Andrew Davies wedi colli ei afael ar y portffolio economaidd. Ond wrth gwrs, os ydi'r bedair wythnos ddiwetha yn hanes gwleidyddiaeth Cymru yn unrhyw linyn mesur, 'falla bod Mr Morgan wedi gweld bwa'r enfys 'na yn dechrau taflu ei gysgod unwaith eto dros y castell Llafur. Mae'n bosib cael dehongliad mwy treiddgar o'r newidiadau yma ar flog Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig, BBC Cymru . Mae Blamerbell Briefs hefyd yn arbennig o dda ac yn cynnig dolenni i'r blogiau gwleidyddol gorau.

Wednesday 30 May 2007

Ta Ta Giggsy



Wel mae hi'n ddiwedd cyfnod i beldroed Cymru ! Giggsy wedi penderfynu nad oes gobaith iddo fo bellach chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd a Phencampwriaeth Ewrop. Fydd ddim yn rhaid iddo fo a Ffergi grafu eu pennau yn chwilio am esgusodion i dynnu nol o'r garfan rwan. 'Dwi'n meddwl bod ei gyfraniad i achos Cymru, ar y cyfan, wedi bod yn siomedig o'i gymharu ar hyn y mae o wedi ei gyflawni yn Old Trafford. Ond yn sicr mi fydd o'n gadael bwlch mawr ar ei ol. Mi wisgodd o'r crys goch gyda urddas ac yn esiampl i chwaraewyr a chefnogwyr ifanc. Diolch o galon Ryan.

Tuesday 29 May 2007

Deuparth gwaith ...

Helo .. Helo .. Oes na rywun yna ? Mae dechra ar yr hen fusnas blogio ma yn fy atgoffa i o freuddwydion rheolaidd o'ni'n gal pan roeddwn i'n fach.. rhyw ofn wrth agor drws pwy fydda'n cuddio tu ol iddo fo. A rhyw deimlad tebyg sydd yna wrth wneud hwn. 'Dach chi'n clywed gymaint am bobl od yn defnyddio'r hen ryngrwyd 'ma. Wel, 'ta waeth am hynny dyma fentro!


Weithia mae'n siwr y bydda i yn gwneud rhyw sylw ynglyn a rhywbeth sy'n digwydd yn yr hen fyd mawr 'na - ond weithia, mae'n siwr eich bod chitha yn cael y teimlad, bod y'ch pen chi yn llenwi efo lot o ryw fan bethau di-werth. Mae fy mhen i weithia fel Microsoft Outlook - yn llawn o hen spam ! A trio didoli hwnna ydw i mewn ffordd !!