Tuesday 8 January 2008

Anghofio!

Newydd gofio - Blwyddyn Newydd Dda bawb!

Monday 7 January 2008

Bywyd, yn werth ei fyw?

Digwydd picio i mewn i archfarchnad leol ddoe a sylwi eu bod nhw yn gwerthu bocsus Freeview am lai na 20 punt. Mi fentrais brynnu un er mwyn ceisio gweld a fydda fo yn gwella ansawdd y llun ar deledu'r ferch yn y llofft. Cyn gadael mi nes i orfod llenwi ffurflen er mwyn i bobl y drwydded deledu wybod bod gen i focs o'r fath. "Fydda mywyd i ddim gwerth ei fyw os na lenwch chi honna" medda'r hogan tu ol i cownter. "Ges i andros o row am anghofio". Felly llenwi wnes i.

Adra a mi - mi gymrodd yr holl broses o'i osod o 10 munud - 5 o rheiny yn chwilio am siswrn i gael gwared o'r llinyn caled oedd rownd y bocs. Mi weithiodd yn fendigedig - llun clir ar bob un o'r sianeli, a hynny efo cymorth aerial mewnol yn unig. Roedd fy merch wedi ei phlesio'n fawr. Ond doedd fy mab ddim yn hapus nad oedd o wedi cael un hefyd. Ofer fu'r ymdrechion i'w berswadio fo y bydda fo yn cael un tro nesa y byddwn i yn y siop. Rhaid oedd mynd yn ol RWAN.

Mi brynais i yr ail focs (wel y plant oedd go iawn - efo pres dolig) Arhosais wrth y cownter "Fedra i helpu?" medda'r ddynes. Roedd hon yn dipyn hyn na'r un oedd yno yn gynharach. Dwi'n cymryd bod honno wedi gorffen ei shifft neu wedi penderfynu nad oedd bywyd, yn wir, yn werth ei fyw.
"Y ffurflen" medda fi
"Pa ffurflen?" gofynodd hitha
"Yr un i roi i bobl y leisans. Dach chi'n g'wnod yr un mae cwsmer i fod i lenwi neu fyddach bywyd CHI ddim gwerth ei fyw"
"O na!" chwarddodd "Does dim rhaid llenwi honno" . Unai mi oedd hi yn llygad ei lle neu yn bendant wedi penderfynu nad oedd bywyd, yn wir, yn werth ei fyw!