Wednesday 5 March 2008

Mynd yn groes i'r graen

Saer coed oedd fy nhaid - ac un arbennig o dda yn ol bob son. Yn anffodus che's i ddim y fraint o'i gyfarfod o. Ond dydw i ddim wedi etifeddu 'r sgiliau morthwyl a chyn - mi fyswn i, fel y g'nes i heddiw, fynd yn groes i'r graen. Be nes i da chi'n gweld oedd g'neud taith yr ydw i fel arfer yn ei g'neud o A i B ac o B yn ol i A ond yn ei g'neud hi o B i A ac o A i B. 'Da chi'n dal efo fi ? Fel arfer, mi fyswn i wedi mynd ar y tren o A i B - prynnu tocyn dwyffordd - dim problem. Ond bore ma gan fy mod i yn dechra yn pen arall - anghofis i fy mod i ishio dwad yn ol i B eto, felly dim ond tocyn unffordd ges i. Ac i rei ohonach chi sydd wedi hen arfer efo First Great Western, Arrivatrains Wales a'u tebyg - mi wyddoch yn syth mai cam gwag ydi hynny - gan ei fod o'n ddrytach !! Damia!!

Peth arall, pan fydda i yn mynd i'r dre, dwi'n tueddu i fynd 'run ffordd .. picio i mewn i'r siopa sydd wrth fy nant ar fy ffordd. Ond diwrnod o'r blaen es i i'r dre efo fy ngwraig ( cam gwag arall. medde chi sy'n wyr priod!) Er ein bod ni wedi mynd i lawr y run strydoedd - doedd na'm trefn i'r peth - Roedd o fatha bod mewn tref hollol wahanol. Yr unig beth da i ddwad allan o hynna - y tro nesa y bydd fy ngwraig yn fy mhlagio i fynd i r'wla arall i siopa, geith hi fap o fy route i iddi hi - ond falla y bydd hynny yn mynd yn groes i'r graen!

Esgusodion

Helo ers talwm

Dyma restr o esgusodion pam nad ydw i 'di wedi bod yma mor aml

(1) Diogi

(2) Difaterwch

(3) Ddim yn lecio mis Ionawr a Chwefror (na'r misoedd o ddiwedd Medi ymlaen sa hi'n dwad i hynny !)

Beth bynnag am hynny - mae hi'n fis Mawrth, y mis gora' o beth coblyn. Piti am y busnas Dewi yna ar y cynta' ond fel arall mae o yn arwydd bod y gwanwyn ar ei ffordd go iawn.

Tuesday 8 January 2008

Anghofio!

Newydd gofio - Blwyddyn Newydd Dda bawb!

Monday 7 January 2008

Bywyd, yn werth ei fyw?

Digwydd picio i mewn i archfarchnad leol ddoe a sylwi eu bod nhw yn gwerthu bocsus Freeview am lai na 20 punt. Mi fentrais brynnu un er mwyn ceisio gweld a fydda fo yn gwella ansawdd y llun ar deledu'r ferch yn y llofft. Cyn gadael mi nes i orfod llenwi ffurflen er mwyn i bobl y drwydded deledu wybod bod gen i focs o'r fath. "Fydda mywyd i ddim gwerth ei fyw os na lenwch chi honna" medda'r hogan tu ol i cownter. "Ges i andros o row am anghofio". Felly llenwi wnes i.

Adra a mi - mi gymrodd yr holl broses o'i osod o 10 munud - 5 o rheiny yn chwilio am siswrn i gael gwared o'r llinyn caled oedd rownd y bocs. Mi weithiodd yn fendigedig - llun clir ar bob un o'r sianeli, a hynny efo cymorth aerial mewnol yn unig. Roedd fy merch wedi ei phlesio'n fawr. Ond doedd fy mab ddim yn hapus nad oedd o wedi cael un hefyd. Ofer fu'r ymdrechion i'w berswadio fo y bydda fo yn cael un tro nesa y byddwn i yn y siop. Rhaid oedd mynd yn ol RWAN.

Mi brynais i yr ail focs (wel y plant oedd go iawn - efo pres dolig) Arhosais wrth y cownter "Fedra i helpu?" medda'r ddynes. Roedd hon yn dipyn hyn na'r un oedd yno yn gynharach. Dwi'n cymryd bod honno wedi gorffen ei shifft neu wedi penderfynu nad oedd bywyd, yn wir, yn werth ei fyw.
"Y ffurflen" medda fi
"Pa ffurflen?" gofynodd hitha
"Yr un i roi i bobl y leisans. Dach chi'n g'wnod yr un mae cwsmer i fod i lenwi neu fyddach bywyd CHI ddim gwerth ei fyw"
"O na!" chwarddodd "Does dim rhaid llenwi honno" . Unai mi oedd hi yn llygad ei lle neu yn bendant wedi penderfynu nad oedd bywyd, yn wir, yn werth ei fyw!

Thursday 6 December 2007

Rhwyfo ..

Digwydd galw i mewn i Swyddfa'r Heddlu yng Nghaerfyrddin yr wythnos dwytha gan lusgo fy nghanw drwy'r drws efo fi.

"Sarjant, dwi'm meddwl fy mod i wedi bod ar goll ers dros fis"
"Be di'ch enw chi?"
"Mr Petha Bach"
(Sarjant yn chwilio yng nghrombil y cyfrifiadur am unrhyw wybodaeth berthnasol)
"Does neb di riportio chi fel 'misper'"
"Typical!" meddwn innau.
"Ond mae na inquiries i symudiadau Mrs PB"
"O??"
"Ma hi di symud i Affrica ac agor siop tedi bers yn Swdan"
"Ma hynny yn gneud sens" meddwn i "Roedd hi'n ffan mawr o Swperted pan ddechreuodd S4C"
(penblwydd hapus hwyr gyda llaw!)

"Well i mi'ch arestio chi"
"Pam?? Dwi di g'neud dim.. hyd y gwn i!"
"Y canw syr, arf Al Qaeda."
"Yyyyyy?"
"Roedd y bois drwg Llundain na yn cynllwynio mewn canws yn ardal Bala"
"O wel! Ga'i ddefnyddio wi-fi yn y gell i gadw'r blog i fynd?"
"Rhaid i mi ofyn i'r bos ... o .. damia . newydd gofio .. does gynno ni 'run. Mr Grange wedi mynd. Chi'n gweld da ninna hefyd "up sh** creek without a paddle'"

Sunday 21 October 2007

Ha Hir

Ar ol ha' bron cyn hired a gwyliau aelod seneddol, dyma fi yn ol ym myd y blog. Lle roeddwn i dudwch? Mae na bron i dri mis ers i mi sgwennu ddwytha. Dwi'n meddwl y byd yn rhaid i mi gymryd llai o wylia' blogio y flwyddyn nesa! Peidiwch a meddwl fy mod i wedi bod yn ista ar rhyw draeth pellennig yn unman. A deu'd y gwir dim ond rhyw deirawr o fy mywyd 'dwi wedi dreulio ar lan mor yr ha'ma Doedd o'm cweit yn "1976" fel roedd y bobl tywydd wedi ei ddarogan nagoedd ?

Monday 23 July 2007

Mynd am dro ..


Mi ddefr'is i'r diwrnod o'r blaen a mi roeddwn i wedi cael llond bol .. wedi blino'n lan efo'r hen wlad 'ma. Y gwleidyddion yn llusgo'u traed wrth benderfynu pwy ddyla' reoli; y rhagymadroddi yn dechra' yn barod ynglyn a gobeithion tim rygbi Cymru yng Nghwpan y Byd a Iolo Williams yn ymddangos yn llawer
rhy aml ar y teli .. heb son am y steddfod ar y gorwel (ond stori arall di honno!).
Beth bynnag, cyn i mi ddiflasu'n llwyr a chodi fy mhac a mynd i fyw mewn tyddyn rh'wle i'r gogledd o Inverness, dyma fi yn mynd ar grwydr. Dwi di bod yn Sir Gar, Sir Faesyfed a Sir Benfro dros y dyddia' diwetha. Er gwaetha diawlio pob arwydd 30mya a'r camerau rioed-wedi-arbed-bywyd, mi wnes i ryfeddu. Mae teithiau fel y ges i yn fy atgoffa i o'r cyfoeth sydd ar stepan ein drws a'r croeso sydd i'w gael yn (bron iawn) bob twll a chornel. Roeddwn i wedi dwad i stop wrth un o'r rowndabowts ar ffordd osgoi Aberhonddu pan 'nath rhyw foi efo sbectol ar gefn motobeic efo nymbar plet KC16 arno fo gnocio ar y ffenast a gwaeddi "Duw a’th waredo ni elli ddianc rhag hon!" "Cytuno'n llwyr efo chi Mr Parry -Williams" medda finna "Siwrne saff i chi 'nol i Ddyffryn Nantlle!"