Sunday 10 June 2007

Diet Freddie Starr ..


Heb os un o benawda mwya cofiadwy y chwarter canrif ddiwetha yn y papurau newydd ydi hwn yn y Sun. Er bod Freddie ei hun wedi gwadu'r stori ar sawl achlysur mae'n ymddangos nad oes na fwg heb dan - neu yn y stori honedig ddiweddara 'ma amdano - falla y dylan ni newid y dywediad i does na ddim llwch heb dan!. Mae'n debyg ei fod o wedi yfed llwch y diweddar ddigrifwr Dick Emery mewn camgymeriad wrth wneud paned o goffi. Ond, dudwch i mi, pam bod ei gariad o (Emery) wedi rhoi'r llwch mewn jar Nescafe ? Mae hynny yn beth od iawn i'w wneud yn fy marn i. Mewn coffin 'da chi'n rhoi pobl sy' di marw, nid mewn caffiene! Be 'dach chi yn adael mewn potia coffi gwag ? Gadewch neges!

2 comments:

Anonymous said...

pps fi wedi neud ti mewn lincs fi

"best blogs v"

righto te!

Petha' Bach ... said...

Diolch Gledwood! Mi na'i restru lincs yn fuan .. na'i gofio amdanat ti !!