Thursday, 6 December 2007
Rhwyfo ..
"Sarjant, dwi'm meddwl fy mod i wedi bod ar goll ers dros fis"
"Be di'ch enw chi?"
"Mr Petha Bach"
(Sarjant yn chwilio yng nghrombil y cyfrifiadur am unrhyw wybodaeth berthnasol)
"Does neb di riportio chi fel 'misper'"
"Typical!" meddwn innau.
"Ond mae na inquiries i symudiadau Mrs PB"
"O??"
"Ma hi di symud i Affrica ac agor siop tedi bers yn Swdan"
"Ma hynny yn gneud sens" meddwn i "Roedd hi'n ffan mawr o Swperted pan ddechreuodd S4C"
(penblwydd hapus hwyr gyda llaw!)
"Well i mi'ch arestio chi"
"Pam?? Dwi di g'neud dim.. hyd y gwn i!"
"Y canw syr, arf Al Qaeda."
"Yyyyyy?"
"Roedd y bois drwg Llundain na yn cynllwynio mewn canws yn ardal Bala"
"O wel! Ga'i ddefnyddio wi-fi yn y gell i gadw'r blog i fynd?"
"Rhaid i mi ofyn i'r bos ... o .. damia . newydd gofio .. does gynno ni 'run. Mr Grange wedi mynd. Chi'n gweld da ninna hefyd "up sh** creek without a paddle'"
Sunday, 21 October 2007
Ha Hir
Monday, 23 July 2007
Mynd am dro ..

Mi ddefr'is i'r diwrnod o'r blaen a mi roeddwn i wedi cael llond bol .. wedi blino'n lan efo'r hen wlad 'ma. Y gwleidyddion yn llusgo'u traed wrth benderfynu pwy ddyla' reoli; y rhagymadroddi yn dechra' yn barod ynglyn a gobeithion tim rygbi Cymru yng Nghwpan y Byd a Iolo Williams yn ymddangos yn llawer
Sunday, 15 July 2007
Glaw, Glaw a mwy o law!
Mae hi'n wlyb eto! Dwi ddim yn poeni rhyw lawer am y tywydd, ond mae'r tywydd yr wythnosa dwytha 'mac yn dechra mynd ar fy nerfa' i. Falla bod na wair gwyrdd bendigedig wedi gorchuddio'r tamad o foelni brown ers i'r plant roi trampolin ar y lawnt yr ha' dwytha - ond mae hi'n rhy wlyb i dorri'r gwair er mwyn i mi gael gweld y lawnt ar ei gorau. Mae'r papurau newydd rwan yn son y bydd hi'n debygol o fwrw glaw am ddeugain diwrnod os y bydd hi'n bwrw heddiw. Mae gwyddonwyr yn darogan bod hynny yn gwbl bosib - digon teg, ond does yna ddim pwynt dwad a Sant Swithin (maddeuwch i mi os oes ganddo fo enw Cymraeg) i mewn i'r peth. Mae'r stori yn un ddiddorol ond dydi hynny ddim yn golygu bod na unrhyw wirionedd ynddi hi. Mae llawer gormod o bobl yn dibynnu ar ofergoelion yn yr hen fyd 'ma ! Mae hi wedi bwrw ar y diwrnod yma yn y gorffennol ond 'naeth hi ddim bwrw bob dydd wedyn tan tua diwedd Awst naddo?. Be' 'taswn i'n proffwydo y bydd yna joci efo cap coch yn ennill y Grand National rhwng rwan a 2025 ? Dydi hynny ddim yn amhosib 'nadi? Tasa fo yn digwydd, cyd-ddigwyddiad fydda hynny yn de? Fydda neb yn ei iawn bwyll wedi rhoi pres yn Ebrill 1979 yn proffwydo y bydda Llafur a Phlaid Cymru yn ffurfio Llywodraeth Glymblaid mewn Cynulliad Cenedlaethol mewn llai na deng mlynedd a'r hugain - ond doedd hi ddim yn scenario gwbl anghredadwy chwaith nag oedd?Felly mi roi fy nghot law a darogan y cawn ni ddiwrnod cwbl sych yn y deugain diwrnod nesa. Dim ond un cofiwch !!! Ai ddim mor bell a darogan nwy na hynny.
Thursday, 12 July 2007
Meddwl yn agored ..
Misoniais i ychydig amser yn ol fy mod i wedi prynnu The God Delusion, ond ches i ddim cyfle i'w ddarllen tan y dyddiau diwetha 'ma. Trwy ddefnyddio y 'chydig resymeg sydd gen i, mae'n rhaid i mi ddod i'r un casgliad a Dawkins, sef ei bod hi'n debygol nad oes na'r fath beth a Duw yn bodoli. Ond mi roeddwn i'n teimlo'n anesmwyth iawn ynglyn a'r ffordd yr oedd o yn mynd o'i chwmpas hi i ddifrio pobl sydd yn credu a'u ffydd yn rhan ganolog o'u bywydau. Rydw i yn ei chael hi'n amhosib fy hun dirnad sut y gall unrhywun ddehongli'r Beibl neu'r Koran yn llythrennol ond fyswn i ddim yn bychanu y rhai sydd yn gwneud hynny. Yn ogystal a'i esboniad Darwinaidd am ein hesblygiad fel bodau dynol roeddwn i yn credu fod ei rybuddion ynglyn a phwysigrwydd annog plant i ddysgu i feddwl drostyn nhw eu hunain yn rymus iawn. Dwi'n ddiolchgar fy mod i wedi cael y rhyddid hwnnw. Dwi yn gwybod am ffrindiau sydd wedi cael eu dwyn i fyny i ddilyn defodau a thraddodiadau Islam yn ddi-gwestiwn. Mi wn i am rai sydd hefyd wedi eu derbyn yn gyflawn aelodau mewn eglwysi a chapeli oherwydd cymhellion teuluol yn bennaf. Mae gen i bob parch at bobl sydd yn credu yn eu ffydd (neu eu anghrediniedd) ar sail rhesymeg ac wedi dod i'w casgliadau trwy rym meddwl agored - ond mae pobl sydd yn methu a gwneud hynny boed nhw yn anffyddwyr neu'n arddel crefydd yn fy mrawychu i. Falle nad oeddwn i yn fodlon efo arddull ymsosodol yr Athro Dawkins - Ond, os nad ydach chi wedi ei ddarllen o eto, mae'r The God Delusion yn gwneud i chi feddwl. Gall hynny ddim ond bod yn fanteisiol - beth bynnag di'n barn ni.
Saturday, 7 July 2007
Dwy ochr i bob ceiniog ..

Thursday, 5 July 2007
Hugh, Syr Alf a'r Ddamcaniaeth Fawr !


Yn gynharach yr wythnos yma bu farw y sylwebydd peldroed Hugh Johns. Roedd o'n lais cyfarwydd ar deledu yng Nghymru, gan mai fo gan amlaf fyddai'n dilyn hynt a helynt clybiau Cymru ar raglenni fel The Big Match yn y 70au a'r 80au cynnar. Ond, mae'n siwr bod y rhan fwyaf o bobl wedi anghofio ei "awr fawr". Fo oedd sylwebydd rhwydwaith ITV ar gyfer Rownd Derfynol Cwpan y Byd yn 1966. Ond, diolch i wyth gair o enau Keneth Wolstenholme, chydig iawn sy'n cofio gorchest Hugh. Mae'n siwr bod They Think It's All Over ... It is now! yn atsain yn ei glustiau fo tan y chwiban olaf. Dyma sut y disgrifiodd o'r diweddglo dramatig "Here's Hurst, he might make it three. He has! He has! So that's it. That is IT!" Ddim cweit cystal rywsut nagdi ?
Mae marwolaeth Hugh Johns wedi fy atgoffa i am stori ddiddorol a ddarllenais i yn ddiweddar yng nghofiant ardderchog Leo McKinstry, Sir Alf. Dwi ddim yn gwybod amdanoch chi, ond dwi wedi cael llond bol o sylwebwyr a phyndits cyn y pencampwriaethau peldroed mawr yn lled awgrymu bod gan Loegr hawl ddwyfol bron i ennill Cwpan y Byd neu Bencampwriaeth Ewrop. Mae lot o'r gwrhydri 'ma wedi ei seilio ar lwyddiant '66. Ond wyddoch chi falla' na ddylai Lloegr fod wedi ennill ? Mae nifer ohonoch chi mae'n siwr yn hen gyfarwydd a dadl yr Almaenwyr na ddyla fod y drydedd gol wedi cyfri oherwydd bod na amheuaeth bod y bel wedi croesi'r linell. Ond mae McKinstry yn cyfeirio at stori arall a allai fod wedi taflu dwr oer dros y dathliadau. Mae o'n dweud bod Syr Alf Ramsey wedi chwarae i dim amatur yn Dagenham nol yn y 20au pan roedd o'n gweithio yn siop y Co-Op. Roedd y gemau rheiny yn cael eu chwarae ar y Sul - arferiad beiddgar iawn yr adeg honno! Doedd yr FA ddim yn cydnabod y chwaraewyr yma, ac os oeddan nhw'n dymuno chwarae i glwb a oedd yn aelodau o'r Gymdeithas, rhaid oedd iddyn nhw gydnabod eu "pechod" a thalu dirwy. Fel arall fyddan nhw ddim yn cael eu cydnabod fel "aelodau" o'r FA. Yn ol McKinstry does yna ddim tystiolaeth i brofi bod Syr Alf wedi syrthio ar ei fai. Felly, yn gellweirus mae'n gofyn a oedd o'n gymwys i fod yn reolwr ei wlad ga nad oedd o yn dechnegol yn aelod o'r Gymdeithas Beldroed ?? Damcaniaeth ddiddorol - Sgwn i os bydd yr Almaenwyr yn gofyn am ail-chwarae yn y Wembley newydd ??
Monday, 2 July 2007
Bywyd mewn bag tryloyw ...

Friday, 29 June 2007
Ta Ta Tony, Tony Ta Ta !!

Tuesday, 26 June 2007
Tenis ?

Sunday, 24 June 2007
Mwd!

Saturday, 23 June 2007
Y Gwahoddiad ..
Thursday, 21 June 2007
Nawdd(oglyd)??
Fel 'dwi wedi dweud o'r blaen, dwi'm yn ymweld a chanol trefi yn aml. Ond yr wythnos yma mi ddigwyddis i fod mewn dwy weddol fawr, a mi ges i fy atgoffa o un o'r petha dwi ddim yn lecio amdanyn nhw - sef pobl yn trio gwneud i chi deimlo'n euog am beidio roi canran o'ch cyflog i helpu rhyw achos da, neu am eich bod chi yn gwrthod prynnu'r Big Issue. Peidiwch a fy nghamddeall i, dwi'n gefnogol iawn i amcanion y bobl yma a'r elusennau y mae nhw yn eu cynrychioli ac yn cydymdeimlo efo pobl sy'n ddigartre. Ond mae'n well gen i ddewis a dethol pa achosion i'w cefnogi. Ond mi ges i sgwrs swreal efo un o'r bois Big Issue diwrnod o'r blaen. "Big Issue!"
"Na, dim diolch"
"BIG ISSUE" meddai gan gymryd arno na chlywodd o fy ateb i.
"Dim diolch" medda finna. Ond yn digwydd bod roedd gen i £1.30 yn fy llaw.
"Dyma chdi" medda fi "ond dwi ddim isio'r cylchgrawn"
Mi edrychodd o'n hurt arna i a deud " Cyma fo"
"Sori, dwi ddim isio fo" medda fi
"Dwinna ddim isio dy bres di" medda fynta
"Sori, doeddwn i ddim yn bwriadu bod yn nawddoglyd" atebais innau gan feddwl fy mod i wedi torri rhyw reol arwyddocaol.
"Cyma'r cylchgrawn ta"
"Na dwi ddim yn ei lecio fo" medda finna "gwell i ti gadw fo i 'w werthu fo i rywun fydd yn ei werthfawrogi o "
Edrychodd arna i fel taswn i'n ynfytyn llwyr, a taflodd y pres i boced ei fest coch.
'Ddwi ddim yn gwybod be di'r canllawiau sydd yna i werthwyr y Big Issue. Mi roeddwn i'n trio ei helpu er nad ydwi yn hoff o'r cylchgrawn. Felly, o hyn ymlaen mi fyddai'n osgoi pobl mewn fests lliwgar fel y pla - yn enwedig y rhai efo clipfyrddau!
Wednesday, 20 June 2007
Elwa o ragfarn ..
ON Mi benderfynais i beidio cyhoeddi ei lun o yma rhag ofn y bydda fo yn dychryn rhai darllenwyr sensitif ! Rhagfarn ? Penderfynwch chi!
Sunday, 17 June 2007
Talent ..
Anaml iawn y dyddia' yma y mae dwad o hyd i raglen deledu ble mae hi'n bosib i'r teulu eistedd i lawr efo'u gilydd i'w mwynhau. Ond mae'r wythnos dwytha 'ma wedi bod yn eithriad diolch i Simon Cowell, o bawb. Yn fy marn i mae cyfresi fel yr X Factor yn ymestyn y gaea' yn hirach na ddyla fo fod - ond ges i'n siomi ar yr ochr orau efo'r gyfres hon. Ro ni'n ama' y bydda Britain's Got Talent yn fy ngyrru i i'r stafell yma i bwdu. Ond chwarae teg mae hi wedi bod yn syndod o ddifyr .. Cymysegdd o'r gwych ( Y Cymro Paul Potts, uchod) y gwael (y ddynes 'na oedd yn meddwl ei bod hi gystal a Madonna), a'r gwachul (Piers Morgan!). Rhywbeth at ddant pawb. Syniad da hefyd ei rhedeg hi dros gyfnod o w'snos, cyn i rywun gael llond bol, a chyn i fis Mehefin droi'n Groundhog Day go iawn. Mae hi'n gyfres sydd wedi cael sylw mawr yn y wasg - o'r tabloids i'r trymion - ac mae'n siwr y bydd Michael Grade yn tanio sigar ychwanegol yn swyddfa ITV bore fory wrth dwangio ei fresus coch tra'n dadansoddi'r ffigyrau gwylio!. Ond poeni yr ydw i rwan y byddan nhw'n gorfanteisio ar y llwyddiant 'ma ac yn ei gwneud hi'n gyfres hirach .. lot hirach! Cofio Millionaire? Mi gafodd honno ei rhedeg am bythefnos gyfa i ddechra cyn diflannu a dwad yn ol am gyfnod byr wedyn .. Mi lwyddodd hi i gadw awch y gwylwyr. Ond rwan does bosib cael gwared o Chris Tarrant! Arghhh! Amser i ffonio ffrind dwi'n meddwl!!!
Saturday, 16 June 2007
Hen ffrind!
Dydd Sadwrn dwytha mi ddwedais i wrthoch chi fy mod i wedi gweld sawl person yr oeddwn i yn ei 'nabod wrth gerdded i nol papur. Mi es i ar y daith tua'r un adeg y bore 'ma a welis i neb cyfarwydd arwahan i'r bobl sy'n gweithio yn y siop. Ond, ar fy ffordd adref mi welis i unigolyn sydd wedi ymddangos yn y blog yma o'r blaen, sef perchennog y Toyota Prius y cyfeiriais i ato yn gynharach yn yr wythnos. Mi wnaeth o fy nghyfarch i efo gwen wybodus "dwi'n-gwybod-be-'ti-wedi-bod-yn-dd'eud-amdana'-i-ar-y-tipyn-blog-'na!". Ydio'n gwybod ?. Go brin! Ond nath hynny ddim fy stopio rhag cael pwl o euogrwydd, wel ..tan ei fod o wedi newid i'r ger anghywir a diflannu rownd y gongl! Lwcus nad oedd 'na blant o gwmpas heddiw!Wrth son am y blog, diolch i un o archflogwyr Cymru Sanddef, am alw draw ac am roi linc i Petha' Bach. Cofiwch ymweld a'i flogiau dwyieithog os nad ydych chi yn gyfarwydd a nhw yn barod.
Yn yr Atig ..
Friday, 15 June 2007
Lleisiau o'r Gorffennol 2

Gwleidydd amlwg arall y clywais ei lais o am y tro cynta ar gyfres Andy Marr (gweler pyst blaenorol) ydi'r cyn brifweinidog Syr Anthony Eden. Am gyfnod maith mi fuodd o'n weinidog disglair ac yn disgwyl am ei gyfle i fod yn brif weinidog (dio'n atgoffa chi o rywun?) . Ond doedd hi ddim yn hawdd symud 'rhen Winston o 10 Downing Street (ddim yn gorfforol chwaith sw 'ni ddim yn meddwl!). Ond ar ol cael ei gyfle mi wnaeth o smonach o betha' yn Suez ac i ffwrdd a fo a Lady E i rywle poeth i guddio. Ond mi 'na'th o ddigon o argraff ar gynghorwyr Wrecsam, gan eu bod nhw wedi enwi un o strydoedd y dre ar ei ol o. Mae hi'n daith bell o gaeau gwyrdd Eton i stad Parc Caia ! Sgwn i os y bydd yna gyngor hirben (!) yng Nghymru yn enw stryd ar ol y boi 'na o ysgol Fettes, Anthony Charles Lynton .. maddeuwch i mi dwi di anghofio ei gyfenw fo yn barod !
*Gyda llaw, diolch i ti Americanwr am dy sylwadau ynglyn a fy mhost dwytha'. Dwi'n synnu bod hi wedi cymryd cyhyd i rywun anghytuno efo fi !
Thursday, 14 June 2007
Sylw wrth basio ...

Tuesday, 12 June 2007
Lleisiau o'r Gorffennol

Pen .. wal .. brics!!
"Pryd?" gofynis i
"Dydd Mawrth rhwng 2 a 6" meddan nhw
"Dydd Mawrth yn iawn, ond er gwybodaeth fydd neb yn ty tan 3. Felly mi ddudwn ni rhwng 3 a 6 ia?"
"Naci rhwng 2 a 6" meddan nhw
"Na 'da chi'm yn dallt" medda fi "Does dim pwynt i ddo fo ddwad rhwng 2 a 3"
"Da chi isio i beirianydd ddwad i wel y modem yn does?"
"Oes - ond rhwng 3 a 6 !!!" (Ron i'n dechra colli mynedd yn fan'ma)
"Be am ddydd Mercher?"
"Dydd Mawrth yn iawn" medda fi "mi fyddai yma ar ol 3" (ychwanegis i BST, rhag ofn mai dim ond i amser lleol Mumbai yr oeddan nhw y gweithio)
"Rhwng 2 a 6 amdani felly"
"NACI - RHWNG TRI a CHWECH" gwaeddais innau
"ond fedran ni .... (PETHA BACH yn gwasgu'r botwm coch ar y ffon a'i daflu ar draws yr ystafell)
Beth bynnag mi 'ro'n i wedi anghofio am y sgwrs hon tan heddiw. Mi nes i ddatrys y broblem fy hun dros y penwythnos - a darganfod mai'r modem OEDD wrth wraidd y drwg!!. Ynghanol fy nathliadau, mi nes i anghofio ffonio'r cwmni i ganslo'r peirianydd. Wps! Ond roedd o'n ddigon graslon chwarae teg iddo fo. Ond wyddoch chi pa bryd y daeth o acw .. ia da chi'n iawn .. rhwng 2 a 3!!!
Monday, 11 June 2007
Ennill a Cholli !

Sunday, 10 June 2007
Y Cwin ..
Oherwydd fy mhroblemau cyfrifiadurol yr wythnos diwetha ches i'm cyfle i basio sylw ar y 'shenhanigans' lawr tua'r Caerdydd 'na ddydd Mawrth. Mi adawai'r dadansoddi i'r blogs gwleidyddol, ond wrth iddi hi ysgwyd llaw efo Dafydd El, mi sylw'is i nad oedd hi'n edrych ddim byd tebyg i Helen Mirren .. neu dydi Helen Mirren ddim yn edrych ddim byd tebyg i Anti Liz! Mi welis i'r ffilm The Queen am y tro cynta'r diwrnod o'r blaen - ac mi o'n i'n crafu fy mhen - sut y llwyddodd hi i ennill yr holl anrhydeddau? Roedd y Fonesig i mi fel Jane Tennyson o Prime Suspect yn gwisgo sgarff am ei phen ar ol i'r gwaharddiad ar smygu mewn mannau cyhoeddus yn Lloegr ddod i rym. Ond roeddwn i'n meddwl bod portread y Cymro Michael Sheen o Uriah Heep .. wps sori .. Tony Blair yn rhagorol - yn fwy credadwy na dehongliad Robert Lindsay yn The Trial of Tony Blair ac A Very Social Secretary. Roedd Sheen hefyd yn cael ail gynnig arni ar ol chwarae'r Prif Weinidog yn The Deal y ddrama sy'n olrhain hanes y fargen honedig rhwng Blair a Gordon Brown ynglyn ac arweinyddiaeth y blaid Lafur.
Diet Freddie Starr ..

Saturday, 9 June 2007
Dechra' da i'r diwrnod !
Wednesday, 6 June 2007
Ma isio gras!!
"Mae'n rhaid i ni sefydlu pa mor gyflym ydi'ch cysylltiad chi " medda nhw
"2-10kb yr eiliad ar gyfartaledd" medda finna
"Plis llwythwch y dudalen hon" medda nhwytha
"Fedra i ddim - mi gymrith o drw'r dydd" medda finna
"Mae'n rhaid i chi" medda nhw
"FEDRA I DDIM!!!!" gwaeddais innau.
I stori hir yn fyr, dwi'n meddwl fy mod i wedi dadwneud y gwaith da 'na'th cenhadon o Gymru yn yr India dros y canrifoedd. Ond dwi'n pwysleisio na wnes i ddefnyddio ieithwedd Jade-Goodyaidd efo nhw. Beth bynnag dwi'n nol yn y byd cyfrifiadurol eto rwan ar ol clicio a dad-glicio llwyth o orchmynion a phrotocols a ballu. Tra dwi wedi bod yma dwi'n gweld fod fy chydig eiriau wedi lledaenu megis ffliw adar, trwy gyfrwng Blogiadur. Gobeithio na chewch chi, na'ch cyfrifiadur feirws, drwy ddarllen hwn. Diolch hefyd i Rhys Wynne am gyfeirio at Petha' Bach ar ei flog Gwenu Dan Fysiau . Felly dyma ad-dalu'r gymwynas Rhys! Ar ol dros dridau o chwilio Google am help i ateb fy mhroblem, mi ga'i fynd allan i'r ardd i fwynhau 'chydig o'r haul rwan .. geith fy ffrind Ms Stella Artois ddwad hefyd os neith hi fihafio ! Iechyd Da!
Monday, 4 June 2007
"I've Arrived!"
Sunday, 3 June 2007
16.48 ....

Y Trampolin ..

Ffarwel ..

Chydig o hanes ...
Thursday, 31 May 2007
Petha Mawr ..

O diar ! Mi nes i addo i fi fy hun pan ddechreuais i gyboli efo'r blog 'ma mai "petha bach" bywyd y byswn ni yn eu trafod. Ond ar ol tridiau yn unig mae fy nisgyblaeth i'n deilchion. Digwydd bod yn dre heddiw a sylwi bod llyfr Richard Dawkins allan mewn clawr meddal. (Fydda i byth yn prynnu llyfrau clawr caled - dydyn nhw ddim yn hawdd i'w cario i bob man nac ydyn?). Dwi'm di ei ddarllen o eto wrth reswm ond yn edrych ymlaen i wneud ar ol darllen yr adwaith yn y wasg i'r fersiwn clawr caled. Pan rydw i yn darllen erthyglau ac ysgrifau ffeithiol dwi'n tueddu i gael fy nhynnu at y rhai y byswn i yn reddfol o bosib yn anghytuno efo nhw. Mae'n haws deall yr wrth-ddadl wedyn ac yn help gobeithio i wella fy nealltwriaeth i o'r ochr arall i'r geiniog. Ond yn y cyd-destun yma, cyn agor y clawr - dwi'n gwybod bod fy rhesymeg i (yr ychydig sy'gin i !) yn dwad i'r casgliad nad oes yna "Fod Mawr". Dwi'n rhagweld bydd y trywydd rhesymegol hwnnw wedi cael ei gryfhau ar ol darllen llith yr Athro Dawkins -- ond rhaid wrth feddwl agored. Mae gen i domen o lyfrau i'w darllen ar y funud .. falle na fyddai felly yn dwad yn ol a un o gwestiynau mawr bywyd tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn !! Reit .. taw piau hi am rwan -- nol at y "petha bach" fory dwi'n meddwl.!
Tipyn o syrpreis ..

Mae Rhodri Morgan wedi dewis ei gabinet newydd ... wel ...'dio ddim mor newydd a hynny a deud y gwir. Yr un chwaraewyr mewn safloedd gwahanol. Roeddwn i wedi tybio y byddai Huw Lewis neu Leighton Andrews wedi cael dyrchafiad i geisio eu ffrwyno. Carwyn Jones fydd yn gofalu am Addysg a Diwylliant. Dwi'n credu y bydd cael Cymro Cymraeg rhugl yn y swyddi yn fanteisiol, er wrth gwrs bod angen canmol ei ragflaenwyr Jane Davidson ac Alun Pugh am fynd ati i ddysgu'r iaith. Mae hi'n syndod bod Andrew Davies wedi colli ei afael ar y portffolio economaidd. Ond wrth gwrs, os ydi'r bedair wythnos ddiwetha yn hanes gwleidyddiaeth Cymru yn unrhyw linyn mesur, 'falla bod Mr Morgan wedi gweld bwa'r enfys 'na yn dechrau taflu ei gysgod unwaith eto dros y castell Llafur. Mae'n bosib cael dehongliad mwy treiddgar o'r newidiadau yma ar flog Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig, BBC Cymru . Mae Blamerbell Briefs hefyd yn arbennig o dda ac yn cynnig dolenni i'r blogiau gwleidyddol gorau.
Wednesday, 30 May 2007
Ta Ta Giggsy

Wel mae hi'n ddiwedd cyfnod i beldroed Cymru ! Giggsy wedi penderfynu nad oes gobaith iddo fo bellach chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd a Phencampwriaeth Ewrop. Fydd ddim yn rhaid iddo fo a Ffergi grafu eu pennau yn chwilio am esgusodion i dynnu nol o'r garfan rwan. 'Dwi'n meddwl bod ei gyfraniad i achos Cymru, ar y cyfan, wedi bod yn siomedig o'i gymharu ar hyn y mae o wedi ei gyflawni yn Old Trafford. Ond yn sicr mi fydd o'n gadael bwlch mawr ar ei ol. Mi wisgodd o'r crys goch gyda urddas ac yn esiampl i chwaraewyr a chefnogwyr ifanc. Diolch o galon Ryan.
