Saturday 16 June 2007

Yn yr Atig ..

Dim on teirgwaith y flwyddyn y bydda i fel arfer yn ol yr ystol o'r sied er mwyn myn di'r atig. CYN Dolig, Noswyl Dolig ac AR ol Dolig. Ond fyswn i ddim wedi cael llonydd gan fy merch drwy'r dydd 'taswn i heb gyflawni'r orchwyl y bore ma. Roedd hi'n chwilio am hen beiriant gwnio. 'Dwi ddim yn lecio mynd i'r atig am sawl rheswm - mae hi'n dywyll i ddechra' felly dydw i rioed wedi gweld yn iawn be sy' 'na arwhan i'r petha dwi'n gwbod fy mod i wedi eu rhoi yna. 'Dwi'n rhoi'r bai ar fy nhad bod yna gymaint o focsus yno. Dros y blynyddoedd, er mwyn creu mwy o le iddo fo'i hun, mae o wedi bod yn dwad a phetha yma. Dydi'r llwyth ddim yn edrych yn lot ar y pryd ond dros gyfnod o amser, mae o'n bentwr sylweddol! Ond wrth edrych y bore ma mi ddois i o hyd i hen beiriant ffilmia fy nhaid yn ei focs gwreiddiol. Mae na tua 5 mlynedd wedi mynd heibio ers i dad ddwad a hwnnw acw, ac mi ro'n i wedi anghofio amdano fo. Rhaid i mi gofio trio chwilio am rywun rwan i roi'r ffilmiau cine ar DVD. Dwi'n cofio eu gweld nhw flynyddoedd yn ol. Mi fydd hi'n ddiddorol gweld hanes y teulu o dros ddeugain mlynedd yn ol. Ond os dwi'n cofio'n iawn doedd na'm sain arnyn nhw. Piti. Ond y cwestiwn yr ydach chi i gyd yn ofyn wrth gwrs ydi - ffeindis di'r peiriant gwnio ?? Wel, naddo siwr iawn!!

2 comments:

Linda said...

Wedi mwynhau dy hanes yn yr atig :)a ddim yn synu o gwbwl dy fod ti wedi mynd yno'n bwrpasol i chwilota am rhywbeth penodol , a chael hyd i rhywbeth arall.Pob lwc i ti efo cael trosi'r ffilmiau. Mi fyddant yn werth eu gwneud !

Anonymous said...

Helo Petha Bach

Atig yn swnio'n ffantastig!

Ni'n chwilio am atig ddiddorol i ffilmio ar gyfer rhaglen Wedi 3 ar S4C, dydd Llun nesaf (7/01/08.

Os oes gennych ddiddordeb ac am wybod mwy yna cysylltwch a Nia ar 01554 880898.

Diolch

Tim Wedi 3