Thursday 14 June 2007

Sylw wrth basio ...


Tua ugain mlynedd yn ol roedd hi'n ffasiynol i gael sticeri doniol ar ffenestri cefn ceir ee My Other car's a Porsche ar ffenest Citoen 2CV. Ond y dyddia yma, mae'r hiwmor i weld wedi diflannu o'n priffyrdd ni. Mae na gamerau melyn a faniau gwynion yn gwylio pob symudiad, heb son am yr hen wardeniaid traffig 'na yn llechu rownd pob cornel! Ond be dwi ddim yn ddeall ydi, be ydi pwynt arwyddion fel hwn? Mae na fabi yn y car .. wel ? Sori, does gen i ddim diddordeb pwy sydd yn teithio yn eich car. A beth bynnag, da'ch chi'n camarwain eich cyd-yrrwyr. Bob tro dwi wedi digwydd sbio draw wrth basio un o'r ceir yma .. anaml iawn welis i fabi o fath yn y byd ! Felly be di'r pwynt ? Ac os mai'r nod ydi deud wrth y gyrrwr tu ol i chi am beidio dwad yn rhy agos, pan na fedwrch chi gario sticer sy'n deud hynny 'ta ? Mae pobl sy'n defnyddio babis fel esgus yn ynfyd!

2 comments:

Americanwr said...

Os ydy arwyddion bach rhyfedd fel hyn yn gwneud i bobl ystyried y ffordd maen nhw'n gyrru, felly "pam ddim"? Mae hefyd yn ffordd o ddatgan pa mor falch wyt ti o fod wedi cynhyrchu person bach newydd, a wela i ddim byd o'i le yn hynny chwaith!

Anonymous said...

Tua ugain mlynedd yn ol roedd hi'n ffasiynol i gael sticeri doniol ar ffenestri cefn ceir ee My Other car's a Porsche

Maen nhw'n dal yn ffad heddiw ;)