Sunday 21 October 2007

Ha Hir

Ar ol ha' bron cyn hired a gwyliau aelod seneddol, dyma fi yn ol ym myd y blog. Lle roeddwn i dudwch? Mae na bron i dri mis ers i mi sgwennu ddwytha. Dwi'n meddwl y byd yn rhaid i mi gymryd llai o wylia' blogio y flwyddyn nesa! Peidiwch a meddwl fy mod i wedi bod yn ista ar rhyw draeth pellennig yn unman. A deu'd y gwir dim ond rhyw deirawr o fy mywyd 'dwi wedi dreulio ar lan mor yr ha'ma Doedd o'm cweit yn "1976" fel roedd y bobl tywydd wedi ei ddarogan nagoedd ?

2 comments:

Cer i Grafu said...

Wnaeth y wrach werdd 'na ddim llosgi'n ulw. Fe wnaeth hi doddi ar ol i Dorothy dowlu dwr drosti - peth bach wi'n gwpod ond mae'r petha bach yn bwysig -:)

Linda said...

Hmmm...mi edrychaf allan am y PPB ;)
Croeso'n ôl i fyd y blogio!