Fel ch'ithau mae'n siwr, dwi ddim yn g'wbod lle byswn i heb yr hen ryngrwyd 'ma. Mae o wedi gwneud bywyd yn llawer haws a hwylus. Mae'n siwr fy mod i yn treulio mwy o amser erbyn hyn yn syllu ar fy sgriniau cyfrifiadurol nac ydwi ar y teledu. Ond fel y gwyddom ni - yn enwedig y rhai ohonoch chi sydd yn byw yng Nghymru - dydi'r cymylau ddim yn bell pan mae'r haul yn gwenu. Mae na broblemau lu ynghlwm wrth y we - sbam, pobl yn ceisio dwyn eich gwybodaeth bersonol chi, a mewn rhai amgylchiadau bwlio a stelcian. Fel y dwedais i yn fy mhost cynta un yma - mae na bobl od a sinistr yn yr hen seiber-fyd yma! Be sydd wedi ysgogi'r llith ym aydi erthygl ddiddorol yn y Times heddiw ynglyn a thwf ffenomenon cymharol newydd Facebook. Stephen Fry (dydi o yn foi clyfar d'udwch?) sy'n ganolbwynt i'r erthygl. Mi wnaeth o gofrestru efo Facebook ac o fewn dim roedd cannoedd o bobl yn ceisio ymuno gyda'i rwydwaith "ffrindiau" fo. A dyna wrth gwrs ydi'r deilema - pwy sy'n ffrind ?? Be ydi'r diffiniad ?? Dwi'n gyfeillgar efo'r boi sydd yn glanhau ffenestri - ond a ydio'n ffrind ??? Fydda ffrind ddim yn codi gymaint am 'neud y gwaith yn y lle cynta !!! (ac o bosib yn g'neud job well!). Dwi'n g'wbod am nifer o bobl sydd yn byw ac yn bod ar dudalennau Facebook yn astudio proffeils pobl sydd yn ffrindiau (??) i ffrindiau (??) ar eu rhwydwaith nhw. I be ?? Mae gen i gyfeiriadau ffon/ebost fy ffrindiau - felly mae'n hawdd cael eu hanes nhw! Ond sgynna'i ddim diddordeb be mae'r boi neu hogan sy'n eistedd gyferbyn a nhw yn y gwaith yn ei neud. Dwi wedi sbio dros ysgwydd ambell un yn sganio'r proffeils 'ma - a mae'r wybodaeth sydd yna yn ystrydebol y tu hwnt a'r diffyg gwreiddioldeb yn boenus ee "Dal yn alcoholic! Dal i fethu nofio ar ol y penwythnos 'na yn canwio yn Glan Llyn" "Yn cael triniaeth yn Denbi' mental" .. Diolch am ddarllen hyn o eiriau ffrindiau (?????)!!!!
Saturday, 7 July 2007
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
1 comment:
Dwi wedi agor cyfrif, ond ddim wedi gwirioni'n lân arno eto. Ok, mae'n neis bod a lot o ffrindiau arno a chael gweld pwy sy'n nabod pwy (..syml, mae pawb yn y Gymru Cymraeg yn nabod eu gilydd mwy na heb!), ond pwy sydd eisiau gwybod bod gan hwn a hwn gur pen ers nos Sadwrn, neu'n dal i fwyta sioced.
Post a Comment