Saturday, 9 June 2007
Dechra' da i'r diwrnod !
Mi gerdd'is i a fy mab i'r siop y bora 'ma i nol y papurau. Mi dd'udon ni helo neu godi llaw ar 7 o bobl yr oeddan ni'n nabod yn ystod y daith 5 munud. Wel 11 i fod yn dechnegol gywir gan fod teulu o 4 basiodd ni yn y car wedi troi rownd a dwad yn ol heibio'r eildro oherwydd eu bod nhw yn amlwg wedi anghofio bwced a rhaw neu rwbath. Mae gweithredoedd bach fel 'na yn gneud i fy nghalon i g'nesu!. Dwi'm yn meddwl fy mod i rioed wedi cael sgwrs hir efo'r un ohonyn nhw arwahan i'r dyn drws nesa ..ond mae'n gneud i chi deimlo eich bod chi'n rhan o dapestri mwr bywyd rhywsut ! Ges i banad dda o goffi cyn cychwyn a doedd dim raid codi yn gynnar a'r haul yn tywynnu . Bendigedig! Ar ddydd Sadwrn mi fydda'i yn prynnu un tabloid (i'r wraig -onest!) a'r Times - yn benna' am yr atodiadau llyfrau a diwylliant a hefyd am golofn wythnosol Mathew Parris. Roedd ei sylwadau ar y cytundeb arfau rhwng Bae Systems a Sawdi Arabia yn ddiddorol, ond y golofn dynnodd fy sylw heddiw oedd un Janice Turner. Ar ol y pwt am Katie, yr hogan beryg' na o'r The Apprentice, mae hi'n son mai hi oedd yr unig riant a oedd yn fodlon i'w mab 11 oed deithio ar ei ben ei hun ar y tren o Weymouth i Lundain. Roedd y rhieni eraill i gyd wedi gyrru 4 awr yno a phedair awr yn ol i nol eu plant - rhai ohonyn nhw yn 16. O gofio achos Madeleine McCann - pa oed y mae hi'n ddiogel i blant gael rhyddid i wneud pethau ar eu pennau eu hunain ? Cwestiwn dyrys ac un y bydd yn rhaid i fi ei ystyried yn ddwys.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
3 comments:
Croeso i fyd y blogio!
Yn falch dy fod ti wedi cael dechrau da i'r diwrnod. Mi fyddai wrth fy modd cerdded i'r dref yma [ Comox B.C] ac ar y ffordd yno , pawb yn dweud helo. Ond fel ti , dwi ddim yn 'i hadnabod nhw ! Ta waeth , fel ti'n ddweud , mae'n ddechrau da i'r diwrnod :)
Haia ! Diolch am adael sylw. Sut ma' pethau yn Nghanada bell ? Mae dy flog yn werth chweil !
O wel wel shw mae te! Fi wedi neud Cymraeg yn yr ysgol, ond fi'n byw yn Lundain nawr. Mae enw i Gledwood a fi'n hoffi prynu heroin. Mae blog fi yw http://gledwood2.blogspot.com - dewch fan na i weld popeth!
ps eich blog iw y blog Cymraeg cyntaf fi wedi weld!!
Post a Comment